Rhybudd tywydd am ddiwrnod arall

  • Cyhoeddwyd
EiraFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Symudodd yr eira i'r gorllewin ddydd Mercher, ac mae trafferthion yn parhau yno

Mae'r tywydd rhewllyd yn parhau, gan ddod â rhybudd arall am amodau peryglus wrth deithio ar hyd rhannau helaeth o Gymru.

Mae rhybudd melyn mewn grym dros dde a chanolbarth Cymru tan 11:00am ddydd Iau.

Mae llawer o ffyrdd yn parhau yn beryglus dros ben er gwaethaf gwaith graeanu dros nos.

Am 8.30am fore Iau, roedd dros 40 ysgol wedi cyhoeddi eu bod yn gorfod cau ddydd Iau.

Roedd bron 500 ar gau ddydd Mercher.

'Gwaethaf'

Gwelwyd y trafferthion ers i'r eira ddechrau disgyn ddydd Gwener diwethaf gan adael ysgolion ar gau, cartrefi heb gyflenwad trydan ac amserlenni trenau a bysiau ar chwâl.

Ond daeth mwy o eira dros dde, canolbarth a gorllewin Cymru ddydd Mercher gan greu anhrefn pellach.

Yn Sir Benfro, fe sglefriodd bys oedd yn cludo 40 o ddisgyblion ysgol adref oddi ar y ffordd, ond yn ffodus chafodd neb eu hanafu.

Dywedodd pennaeth yr ysgol bod yr amodau "mwy na thebyg y gwaethaf" iddo eu gweld ers 25 mlynedd.

Aeth bws ysgol arall a dau fws arferol yn sownd ar yr A487 rhwng Trefdraeth ac Aberteifi wrth i griwiau graeanu geisio clirio'r ffordd.

Yn ôl y rhagolygon fe fydd dydd Iau yn gliriach, ond er nad oes disgwyl mwy o eira fe fydd hi'n ddiwrnod oer iawn unwaith eto.

Mae darogan y bydd mwy o eira ddydd Gwener yng ngogledd-ddwyrain Cymru gan arwain at drafferthion i deithwyr yn y rhanbarth.