Tom James i adael y Gleision
- Cyhoeddwyd

Bydd yr asgellwr 24 oed yn ymuno â Chaerwysg
Mae'r chwaraewr rygbi rhyngwladol Tom James wedi cyhoeddi y bydd yn gadael Gleision Caerdydd ar ddiwedd y tymor.
Bydd yr asgellwr 24 oed yn ymuno â Chaerwysg, ar ôl saith mlynedd gyda'r Gleision.
Dywedodd Tom: "Doedd hwn ddim yn benderfyniad hawdd, gan fod y Gleision wedi gwneud cynnig da, ond dwi'n teimlo bod angen newid arnaf wedi saith mlynedd yma.
"Dwi'n credu bod fy ngêm wedi gwella tipyn y tymor hwn o dan Phil Davies, ond rwy'n edrych ymlaen at her newydd yn Uwch-gynghrair Lloegr".
Dywedodd cyfarwyddwr rygbi'r Gleision, Phil Davies: "Mae wedi bod yn bleser i weithio gyda Tom dros yr wyth mis diwethaf.
"Ond ry' ni yn deall ei resymau dros adael, wrth geisio her newydd. Dymuniadau gorau iddo".
Straeon perthnasol
- 19 Ionawr 2013