Hazard: Dim cyhuddiad o ymosod
- Cyhoeddwyd
Y bachgen yn gorwedd ar lawr ar ôl y digwyddiad yn Stadiwm Liberty
Ni fydd un o bêl-droedwyr Chelsea yn wynebu cyhuddiad o ymosod wedi rownd gynderfynol Cwpan Capital One yn Abertawe nos Fercher.
Roedd hi'n ymddangos bod Eden Hazard wedi cicio Charlie Morgan, un o'r bechgyn sy'n gofalu am y peli, yn ystod y gêm yn erbyn Abertawe.
Mi welodd Hazard gerdyn coch ar ôl y digwyddiad ond yn ôl Heddlu'r De, ni chafodd y bachgen 17 oed ei anafu ac ni wnaed cwyn.
Fe wnaeth Hazard ymddiheuro am y digwyddiad ar ôl y gêm.
Fe fydd cefnogwyr Abertawe yn tyrru i Wembley ymhen mis ar ôl curo Chelsea dros ddau gymal yn y rownd gynderfynol.
Enillodd yr Elyrch y cymal cyntaf 2-0, ac fe lwyddon nhw i gadw'r fantais i sicrhau eu lle yn rownd derfynol un o brif gystadlaethau pêl-droed Lloegr am y tro cyntaf yn eu hanes.
Straeon perthnasol
- 23 Ionawr 2013
- 23 Ionawr 2013
- 9 Ionawr 2013
- 12 Rhagfyr 2012
- 31 Hydref 2012
- 25 Medi 2012
- 28 Awst 2012