Adolygiad yn arwain at gau swyddfeydd?

  • Cyhoeddwyd
Cyfiawnder
Disgrifiad o’r llun,
Mae gan y gwasanaeth wyth o swyddfeydd yng Nghymru

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cadarnhau eu bod yn ystyried cau rhai o'u safleoedd yng Nghymru.

Yng Nghymru mae 350 o staff ond mae'r gwasanaeth wedi dweud nad oes cynlluniau diswyddiadau gorfodol.

Mae hyn yn rhan o adolygiad yn wyneb toriadau gwariant cyhoeddus.

Ar hyn o bryd mae wyth o swyddfeydd, yng Nghaerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn, Cwmbrân, Merthyr Tudful, Y Drenewydd, Abertawe a Wrecsam.

Llai o swyddfeydd

Dywedodd Mike Grist, Rheolwr Busnes Rhanbarthol Cymru y gwasanaeth: "Nid yw'n gyfrinach bod yr adolygiad gwariant cyhoeddus yn golygu bod y gwasanaeth fel pob adran arall o'r llywodraeth yn gorfod ystyried sut y gallwn wneud arbedion tra'n sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gwasanaeth o safon uchel i'r cyhoedd sy'n cynnig gwerth am arian.

"O ganlyniad rydym yn adolygu dewisiadau sut i reoli a gwneud y gorau o'n hadnoddau yng Nghymru, a hynny drwy ymgynghori gyda staff ac undebau.

"Mae'n debygol iawn y bydd yr adolygiad yn arwain at lai o'n swyddfeydd yn y dyfodol gyda rhai o'n staff yn symud i unedau canolog, mwy.

"Bydd yr unedau mwy yn cryfhau ein gallu i reoli ein gwaith yn effeithlon ac i wella'r gwasanaeth."

'Dim penderfyniad'

Mae'r cynllun drafft ar gyfer Cymru yn rhagweld un swyddfa i wasanaethu gogledd a chanolbarth Cymru erbyn Ionawr 2014 yn lle'r tair swyddfa bresennol.

Y disgwyl yw y bydd swyddfeydd canolog yn dilyn i wasanaethu rhanbarthau de-orllewin a de-ddwyrain Cymru.

Ychwanegodd Mr Grist: "Rwy'n pwysleisio, fodd bynnag, nad oes penderfyniadau terfynol wedi eu gwneud hyd yma o ran nifer na lleoliad ein swyddfeydd yng Nghymru yn y dyfodol.

"Ar yr un pryd mae ein defnydd cynyddol o dechnoleg yn golygu bod y dewis gennym i wneud peth o'n gwaith o bell ac mae hynny hefyd yn rhan o'r adolygiad.

"Gall cymunedau ar draws Cymru fod yn dawel eu meddwl na fydd ein hymrwymiad i wella'r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu yn diodde' mewn unrhyw ffordd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol