Cyfarwyddwr yn ymddiswyddo
- Cyhoeddwyd

Mae un o gyfarwyddwyr clwb pêl-droed Caerdydd wedi ymddiswyddo wedi iddo gael ei gyhuddo o dwyll gan yr heddlu.
Cafodd cyn brif weithredwr y clwb, Alan Whiteley, ei arestio yn dilyn ymchwiliad gan y Swyddfa Dwyll Difrifol.
Mae Mr Whiteley, cyfreithiwr 48 oed, yn un o bum person gafodd eu harestio fel rhan o ymchwiliad i honiadau o gynllwyn i dwyllo mewn perthynas â gwerthiant pedwar safle glo yn ne Cymru.
Pan gafodd ei arestio ym Mawrth 2011 cafodd ei wahardd o'i waith fel partner gyda chwmni cyfreithwyr M&A yng Nghaerdydd.
Arhosodd fel aelod o fwrdd y clwb pêl-droed ond bellach mae wedi ymddiswyddo er nad oes gan yr ymchwiliad troseddol unrhyw gysylltiad gyda'r clwb.
Manylion
Mewn datganiad, dywedodd y Swyddfa Dwyll Difrifol: "Mae pump o bobl wedi cael eu cyhuddo o gynllwynio i dwyllo mewn perthynas â gwerthiant pedwar safle glo brig yn ne Cymru.
"Y pum diffynnydd yw:-
- Eric Evans - 67 oed o'r Fenni, Sir Fynwy;
- Alan Whiteley - 48 o Ben-y-bont ar Ogwr;
- Frances Bodman - 30 oed o Ben-y-bont ar Ogwr;
- Richard Walters - 32 oed o Ben-y-bont ar Ogwr;
- Leighton Humphreys - 38 oed o Gaerdydd.
"Bydd y pump yn ymddangos yn Llys Ynadon Llundain ar ddydd Mercher, Ionawr 30.
"Cafon nhw'u cyhuddo o gynllwynio i dwyllo Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Sir Powys a'r Awdurdod Glo drwy niweidio yn fwriadol eu gallu i weithredu eu cyfrifoldebau i adfer safleoedd glo brig i fod at ddefnydd amaethyddol cefn gwlad.
"Y safleoedd yw East Pit, Nant Helen (Nant Gyrlais), Selar a Margam (Parc Slip a Chynffig)."
'Gwallus'
Dywedodd Mr Whiteley: "Mae penderfyniad y Swyddfa Dwyll Difrifol i ddwyn cyhuddiadau yn fy erbyn i ac eraill yn y mater yma yn destun siom a thristwch i mi.
"Rwy'n credu yn gryf fod yr honiadau yn fy erbyn yn wallus ac nad ydynt yn ystyried y gwir gefndir cyfreithiol, ffeithiol a masnachol y gwerthiant."
Dywedodd llefarydd ar ran Clwb Pêl-droed Caerdydd: "Gallwn gadarnhau bod Alan Whiteley wedi ymddiswyddo o fwrdd y clwb ar unwaith.
"Hoffwn gofnodi ein diolchgarwch iddo am y gwaith y mae wedi ei gyflawni dros gyfnod hir.
"Heb y gwaith yma ni fyddai'r clwb wedi gallu gwneud y gwelliannau sydd wedi eu cyflawni.
"Does gennym ddim amheuaeth y bydd yn cael ei rhyddhau'n llwyr o unrhyw fai am unrhyw honiadau a chyhuddiadau ymhen amser."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2011