Dirwy o £7,500 i ddatblygwr
- Cyhoeddwyd

Mae datblygwr wedi pledio'n euog i dorri rheolau iechyd a diogelwch wedi i weithiwr gael anafiadau difrifol iawn.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod llawr wedi sigo dan Andrew Wilding yng Nghaersws, Powys ym Mai 2008, gan achosi anafiadau oedd yn peryglu ei fywyd.
Cafodd anafiadau mewnol difrifol a chollodd hanner ei olwg mewn un llygad wrth iddo gael ei adael o dan bentwr o goncrit.
Fe gafodd y datblygwr, Gruffydd Beynon-Thomas sy'n 57 oed, ddirwy o £7,500 gan y Barnwr Niclas Parry a gorchymyn i dalu £7,500 o gostau.
Er bod y diffynnydd yn honni nad oedd ganddo lawer o arian, cafodd wybod y bydd rhaid talu'r cyfanswm o £15,000 o fewn tair blynedd neu wynebu dedfryd o chwe mis o garchar.
Dim asesiad
Wrth erlyn ar ran y Gweithgor Iechyd a Diogelwch, dywedodd Ian Dixey bod y llawr wedi sigo gan nad oedd yn ddigon cryf i gynnal pwysau Mr Wilding a'r ddau ddyn oedd yn sefyll arno.
Ni chafodd y datblygwr gyngor proffesiynol nac asesiad strwythurol o'r adeilad.
Y gwaith oedd troi hen ysbyty Fictorianaidd Plas Maldwyn, Caersws, yn fflatiau.
Gwaith Mr Wilding oedd gosod draeniau ond gan nad oedd cyflenwad o slabiau wedi cyrraedd mewn pryd fe gafodd orchymyn i fynd i helpu dymchwel rhan arall o'r adeilad.
Dywedodd y barnwr fod pobl heb sgiliau dymchwel yn cyflawni gwaith risg uchel oedd angen arbenigedd a chynllunio gofalus.
Roedd cyngor wedi cael ei anwybyddu, meddai, a'r realiti oedd bod Beynon-Thomas wedi dewis yr opsiwn rhad.