Colled o £245,841 yn plesio cyfarwyddwyr Clwb Pêl-Droed Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Cae Ras
Disgrifiad o’r llun,
Dywed y cyfarwyddwyr y bydd y clwb yn gwneud elw cynaliadwy yn y dyfodol

Mae cyfarwyddwyr Clwb Pêl-Droed Wrecsam wedi cyhoeddi ffigyrau ariannol y maen nhw'n eu disgrifio fel rhai "llawer gwell na'r disgwyl".

Yn y flwyddyn gyntaf ers i Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr brynu'r Dreigiau, roedd disgwyl i'r clwb wneud colled.

Ond dydi'r golled honno ddim hanner cymaint â'r disgwyl.

Cafodd manylion y golled o £245,841, ei gyhoeddi yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y clwb nos Iau.

Costau 'unwaith ac am byth' sy'n gysylltiedig gyda'r broses o brynu'r clwb sy'n gyfrifol am y golled.

Mae'r cyfarwyddwyr yn dweud eu bod nhw'n hapus iawn gyda'r modd y mae'r clwb yn cael ei redeg.

'Cynaliadwy'

Dywedodd un o'r cyfarwyddwyr, Spencer Harris, wrth BBC Cymru: "Yn y flwyddyn gyntaf, a'r tymor llawn cyntaf ers i'r clwb ddod o dan reolaeth yr Ymddiriedolaeth, 'da ni wedi gwneud elw bach os ydych chi ddim yn cyfri'r gost o brynu'r clwb.

"Mae hynny yn wych. Mae hynny yn dweud bod y model o gael cefnogwyr yn berchen ar y clwb yn gweithio.

"Yn y ffigwr yna, rydyn ni hefyd wedi talu bron i £500,000 o ddyled y gwnaethon ni gymryd drosodd, ac mae hynny'n golygu bod y ffigyrau'n llawer gwell eto.

"Fe fyddwn ni'n gwneud colled eto'r tymor nesaf - rydyn ni wedi cynllunio i wneud colled - ond rydyn ni wedi cynllunio'r clwb i wneud elw yn y dyfodol, ac i wneud hynny mewn ffordd gynaliadwy.

"Un cam ar y tro fydd hi."

Stadiwm

Yn rhan o'r cynlluniau hynny y bydd bwriad perchnogion stadiwm y Cae Ras - Prifysgol Glyndŵr - i ddatblygu'r stadiwm.

Rhan o hynny yw datblygu ardal y Kop yn y stadiwm, a dywedodd llefarydd ar ran y Brifysgol mai'r bwriad yw datblygu'r Cae Ras yn ganolfan chwaraeon i'r gymuned, ac i fod yn stadiwm pêl-droed a rygbi 13 pwysig yn y rhanbarth.

Mae Wrecsam yn ail yn Uwchgynghrair Blue Square Bet, ond dyw'r cofnodion ariannol ddim yn son am ba effaith y byddai dyrchafiad yn ei gael ar y clwb.

Wrth gwrs fe fyddai'n codi ysbryd y cefnogwyr, ond er y byddai incwm y clwb yn debyg o godi o ddychwelyd i'r Gynghrair Bêl-droed fe fyddai'r costau hefyd yn cynyddu.

Ond mae'r adroddiad ariannol yn dangos bod y cwmni cyfrifo - McLintock's - a'r cyfarwyddwyr newydd o'r farn bod y clwb ar seiliau ariannol cadarnach nag y bu ers blynyddoedd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol