Nodi Diwrnod Coffau'r Holocost
- Cyhoeddwyd

Mae dinasoedd a threfi'n nodi Diwrnod Coffau'r Holocost dros y penwythnos a gwasanaethau'n cael eu cynnal yng Nghaerdydd, Abertawe a Bangor.
Cafodd carcharorion eu rhyddhau o wersyll Auschwitz-Birkenau ar Ionawr 27, 1945.
Mae'r diwrnod hefyd er cof am yr hil-laddiad yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darffwr ac erchyllterau yn Armenia.
Adeiladu pontydd rhwng cymunedau yw'r thema eleni ac yn Abertawe mae gwasanaeth yn y Ganolfan Ddinesig am 2pm ar Ionawr 25.
'Dinas Noddfa'
Dywedodd yr Arglwydd Faer, Dennis James, "Abertawe oedd y Ddinas Noddfa gyntaf oherwydd ei hanes o gynnig lloches i bobl sy' wedi dianc rhag trais ac erledigaeth.
"Mae'n briodol i Gyngor Abertawe ymuno â llawer eraill i hyrwyddo dealltwriaeth a chyd-weithio rhwng cymunedau.
"Ac mae'n bwysig nad yw pob cenhedlaeth yn anghofio beth ddigwyddodd.
"Ond mae'n hanfodol ein bod yn defnyddio'r cyfle i greu cysylltiadau rhwng ein cymunedau a sicrhau na fydd hyn fyth yn digwydd eto."
Ar Ionawr 28 bydd gwasanaeth arbennig yn Ysgol Penyrheol, Gorseinon.
'Hil-laddiad'
Bydd nifer o aelodau'r gymuned fwyaf Iddewig Cymru yng Nghaerdydd yn y gwasanaeth yn Neuadd y Ddinas am 1pm ar Ionawr 28.
Dywedodd Lisa Gerson o Synagog Unedig y ddinas: "Er ein bod yn cofio'r Iddewon fu farw, wrth gwrs, rydym hefyd yn cofio'r sipsiwn a'r bobl anabl, hoyw ac eraill a gafodd eu llofruddio.
"Hefyd yr hil-laddiad sy'n parhau i ddigwydd yn y byd.
"Dwi wedi mynychu pob un o'r gwasanaethau dros y degawd diwethaf ac erbyn hyn mae 'na neges o obaith at y dyfodol yn hytrach nag edrych yn ôl yn unig."
Roedd gwasanaeth arbennig yn Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor, am 10.30am ar Ionawr 25.
Dywedodd Mr Wyn Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor, Prifysgol Bangor: "Mae'n anrhydedd i ni fel Prifysgol gael cynnal digwyddiad o'r fath bwys ..."
Mae Cyngor Torfaen yn cynnal dwy arddangosfa fel y gall pobl "ddysgu gwersi" am yr erchyllterau.
'Herio casineb'
Dywedodd arweinydd y cyngor, Cynghorydd Bob Wellington: "Ar y Diwrnod Coffau rydym yn rhannu atgofion am y rhai gafodd eu llofruddio er mwyn herio casineb ac erlid ym Mhrydain heddiw.
"Mae'n rhoi'r cyfle i ni gofio'r rhai fu farw a dangos ein parch i'r rhai oroesodd hil-laddiad."
Bydd arddangosfa yng Nghanolfan Ddinesig Pont-y-pŵl tan Chwefror 1 a hefyd yn Llyfrgell Cwmbrân tan Ionawr 31.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2002