"Pensiynwr ddim yn fygythiad"
- Cyhoeddwyd

Clywodd llys fod pensiynwr anabl gafodd ei drywanu i farwolaeth yng Nghaerdydd yn gallu dangos rhwystredigaeth ond na allai fod yn fygythiad i unrhyw un.
Bu farw Peter Lewis o'r Rhath ym mis Ebrill 2012 ar ôl agor drws ei gartref i William Jones.
Yn Llys y Goron Caerdydd mae Mr Jones, 32 oed, yn gwadu llofruddiaeth.
Honnodd iddo ei drywanu yn ddamweiniol wrth iddo geisio cymryd cyllell oddi wrtho.
Ond mae'r erlyniad wedi honni y gallai'r pensiynwr 68 oed fod yn fygythiol.
Clywodd y llys fod Mr Lewis wedi agor ei ddrws am 2.30am ar Ebrill 28 a bod ffrae wedi bod rhyngddo a Mr Jones.
Yn ôl yr erlyniad, roedd Mr Jones, oedd yn cario cyllell, yn chwilio am ei gyn-gariad a'i phartner.
Ar ôl i Mr Lewis gael ei drywanu, meddai'r erlyniad, fe wnaeth y diffynnydd redeg i ffwrdd a thaflu'r gyllell.
Ond dywedodd Mr Jones, sy'n gaeth i gyffuriau, mai Mr Lewis atebodd y drws gyda chyllell gegin yn ei law.
"Cafodd y pensiynwr ei drywanu wrth i mi geisio ei ddiarfogi," meddai Mr Jones.
Yn ôl David Aubrey QC, ar ran yr amddiffyniad, roedd Mr Lewis yn gallu bod yn berson bygythiol.
'Bygwth'
Dywedodd fod yr heddlu wedi ei rybuddio am ei ymddygiad, ac ar un adeg iddo fygwth taflu bom petrol at dŷ cymydog.
"A ydych chi'n sicr na wnaeth Peter Lewis ateb y drws gyda chyllell yn ei ddwylo?" gofynnodd i'r rheithgor.
Ond dywedodd Peter Murphy QC, ar ran yr erlyniad, fod honiadau fod Mr Lewis wedi bygwth y diffynnydd a chyllell yn "chwerthinllyd."
Yn gynharach fe glywodd y rheithgor fod Mr Lewis yn ddyn bregus, gyda IQ isel ac yn rhannol ddall.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2013