Bydwraig y Flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Adroddiad Nia Cerys
Mae bydwraig o Sir Fôn wedi ennill gwobr genedlaethol am ei hymdrechion yn helpu mamau ifanc.
Mewn seremoni yn Llundain ddydd Iau, cafodd Brenda Foulkes ei henwi yn 'Fydwraig y Flwyddyn' yng Nghymru - gwobr sy'n cael ei henwebu gan famau.
Kirsty Parry o Langefni, mam i dri o blant, oedd wedi cynnig ei henw ar gyfer yr anrhydedd wedi i Brenda wneud cymaint i gefnogi'r fam ifanc yn ystod ei phedwar beichiogaeth.
Ar ôl cael dwy o ferched, cafodd Kirsty amser anodd pan gollodd ei thrydedd merch, Leyla, a oedd yn farw-anedig.
Pan glywodd ei bod yn disgwyl unwaith eto, gyda'i mab Theo, roedd Kirsty yn amlwg yn bryderus.
'Perffaith'
"Pryd nes i glywed 'mod i'n disgwyl tro 'ma, o'n i'n poeni dipyn," meddai Kirsty. "Nes i ffonio bob tro, dweud bod y babi ddim yn symud a phethau, ond roedd hi yno bob tro i mi ac i'r teulu."
"Mae pawb yn dweud 'run peth am Brenda - mae hi'n ffantastig o midwife, jyst be' ti isho - mae hi'n berffaith."
Fel rhan o dîm o fydwragedd ar Ynys Môn, mae Brenda'n teimlo'n gryf bod mamau newydd yn haeddu cael y gofal gorau posib.
"Mae hynny weithiau'n golygu gweithio'n hwyr a gweithio extra, ond dwi'n meddwl fel tîm yma yn yr ardal, 'da ni ddim yn gorffen tan fydd y fam ola' wedi cael ei gweld," meddai.
Prinder bydwragedd
Yn gynharach yn y mis, datgelodd Coleg Brenhinol y Bydwragedd bod ganddynt bryderon am brinder bydwragedd, gyda nifer y myfyrwyr yn lleihau a chynnydd yn nifer y babanod sy'n cael eu geni.
Yn ôl eu ffigurau, mae 12% yn llai o fydwragedd yn cael eu cyflogi gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ers 2008 - a hynny wrth i'r gyfradd geni yn y wlad gynyddu 16% dros y degawd diwetha'.
Mae Brenda Foulkes yn cydnabod bod 'na fwy o straen ar wasanaethau'r dyddiau hyn.
Meddai: "Mae 'na lai o fydwragedd yn dod allan i'r gymuned - mi fasa'n neis gweld mwy. Mae 'na bryderon, a hefyd mae 'na fwy o fabis yn cael eu geni - tua saith neu wyth y cant yn fwy.
"Maen nhw'n gofyn dipyn bach mwy gynnon ni trwy'r amser, wedyn mae hi'n swydd anodd weithiau, ond mae'n swydd grêt i ddweud y gwir - dwi'n mwynhau'n ofnadwy.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, roedd 'na gynnydd yn nifer y cyfleoedd hyfforddiant i fydwragedd eto eleni.
Cymaint yw ymroddiad a brwdfrydedd Brenda at y gwaith, ei bod hi'n ysbrydoli eraill nawr i hyfforddi fel bydwragedd.
Mae Kirsty Parry wedi gwneud cais i fynd i'r brifysgol i astudio'r maes.
"Dwi isho helpu rhywun fel mae Brenda wedi'n helpu fi a'n nheulu - mae hi 'di newid fy mywyd i."
Mae clywed geiriau felly yn siŵr o fod yn gymaint o wefr i Brenda ag ennill y wobr yn Llundain.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd20 Medi 2011
- Cyhoeddwyd19 Medi 2011
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2011
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2011