Hwb ariannol i grwpiau cymorth cyntaf ym Mhowys

  • Cyhoeddwyd
Mark Rutherford (chwith) a y'r Uwchgapten Ed Mahony (de)Ffynhonnell y llun, Y Gronfal Loteri Fawr
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Mark Rutherford (chwith) a'i gymheiriaid yn chwarae pêl-droed pan ddioddefodd yr Uwchgapten Ed Mahony (de) ataliad y galon

Dywed y Gronfa Loteri Fawr eu bod yn gobeithio y bydd mwy o fywydau gael eu hachub o ganlyniad i rodd ariannol i wirfoddolwyr sy'n cynnig gwasanaeth cymorth cyntaf.

Diolch i'w dyfarniad o £5,000 bydd Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol De Powys yn ehangu'r ardal y maent yn ei gwasanaethu.

Mae gwirfoddolwyr Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol wedi'u hyfforddi i fynd i sefyllfaoedd a darparu gofal nes bod yr ambiwlans yn cyrraedd.

Yn Ystalyfera, Castell-nedd Port Talbot, mae Grŵp Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol Pontardawe hefyd wedi derbyn £3,717 i brynu peiriannau diffibrilio newydd.

Bydd y grŵp yn recriwtio gwirfoddolwyr ychwanegol a fydd yn gostwng amserau ymateb yn yr ardal a bydd yn gweithio tuag at ddarparu gwasanaeth 24 awr trwy gydol y flwyddyn.

12 ymatebwr brys

Cafodd ymatebwyr Cyntaf Cymunedol De Powys ei sefydlu ychydig dros 18 mis yn ôl ac mae'r grŵp yn gwasanaethu ardaloedd Aberhonddu a Phont Senni.

Ond bydd y grŵp yn ehangu i gwmpasu Crucywel a'r Gelli Gandryll trwy hyfforddi 12 ymatebwr brys ychwanegol.

Cafodd y tîm Ymatebwyr Cyntaf sy'n gwasanaethu ardal Aberhonddu ei sefydlu diolch i Mark Rutherford, Swyddog Gwarant Gweithrediadau yng Ngwersyll y Fyddin, Pont Senni.

Un prynhawn roedd Mark yn chwarae pêl-droed yng ngwersyll y fyddin pan lewygodd un o'r chwaraewyr a chael trawiad y galon.

'Gwasanaethau hanfodol'

Roedd Mark yn gallu darparu diffibrilio a dadebru (CPR) cyn bod yr ambiwlans yn cyrraedd.

Cafodd y claf, yr Uwchgapten Ed Mahony, ei hedfan i'r ysbyty gan Ambiwlans Awyr Cymru ac aeth ymlaen i wella'n gyfan gwbl.

"Cwblhaodd pum gwirfoddolwr newydd eu hyfforddiant y penwythnos diwethaf ac erbyn hyn mae deg ohonom ni'n gweithio yn yr ardal," meddai Mark.

"Mae gennym bump arall sydd am gael eu hyfforddi."

"Mae gwasanaethau fel hyn yn hanfodol mewn sir wledig fel Powys a'r gobaith yw y gallwn gyrraedd claf o fewn y pum munud hollbwysig.

"Bydd mwy o fywydau'n cael eu hachub, yn enwedig os ydynt yn dioddef trawiad ar y galon.

"Nid yw 70% yn goroesi oherwydd y bwlch amser ond os gallwch gyrraedd rhywun o fewn 5 munud mae cyfle 80% o'u dadebru."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol