Gwobrau beirniaid theatr yn rhoi hwb i bobl ifanc

Logo Gwobrau Beirniaid Theatr Cymru Image copyright Other
Image caption Dyma'r flwyddyn gyntaf i'r gwobrau yma gael eu cyflwyno

Tynnu sylw at farn yr ifanc am y celfyddydau ydi un o fwriadau gwobrau newydd.

Bydd Gwobrau Beirniaid Theatr Cymru yn cael eu cyflwyno am y tro cyntaf mewn seremoni yn Theatr y Sherman, Caerdydd, nos Sadwrn.

Datblygodd y gwobrau oherwydd cynllun a gychwynnodd dair blynedd yn ôl i annog pobl ifanc rhwng 12 a 25 oed i adolygu'r celfyddydau yng Nghymru.

O gomedi i'r dwys ac o ddrama i opera, mae'r amrywiaeth o gynyrchiadau yn cael eu cynnwys yn y gwobrau.

Y ddrama Gymraeg, Llwyth, sydd â'r nifer o enwebiadau, sef naw, a thri o'r actorion yn ymgeisio am wobr yr actor Cymraeg gorau.

Yn ddiweddar, fe deithiodd y ddrama i Taipei ar ôl bod yng Nghaeredin ac ar daith yng Nghymru.

Mae'r adolygwyr ifanc yn cael cymorth mentoriaid ac yn cael cyhoeddi eu hadolygiadau ar y we.

Dywedodd Harriet Hopkins o Ben-y-bont ar Ogwr, ei bod wedi mwynhau'r profiad a'r cyfle i gael ysgrifennu adolygiadau.

"Mae'n gallu bod yn frawychus i ddechrau, dysgu ysgrifennu beirniadaeth adeiladol a'r ffaith y gall y bobl yr ydach chi'n cyfeirio ato fod yn eu darllen.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Elin Williams, un o'r beirniaid

"Mae'n gynllun gwych, mae'n gystadleuol os ydach chi'n chwilio am wneud hyn fel gwaith ond mae'n rhoi profiad gwerthfawr i chi."

Swyddog Datblygu'r Celfyddydau ar gyfer Cyngor Pen-y-Bont ar Ogwr, Guy O'Donnell, sy'n rhedeg Cynllun y Beirniaid Ifanc.

"Roedd y beirniaid dwi'n gweithio gyda nhw yn ymwybodol o wobrau tebyg yn Yr Alban ac yn credu y byddai'n hynod o addas yng Nghymru," meddai.

"Mae 'na griw o feirniaid proffesiynol sy'n mentora'r ifanc a'r syniad oedd adlewyrchu'r amrywiaeth o waith yng Nghymru yn 2012."

Dywedodd fod 'na nifer o gategorïau a'u bod yn ceisio adlewyrchu pob agwedd ar fyd y theatr.

Anrhydedd

"Mae 'na gategorïau hefyd ar gyfer cynyrchiadau drwy gyfrwng Y Gymraeg," ychwanegodd.

"Mae nifer o'r beirniaid ifanc a'r mentoriaid sy'n rhan o'r cynllun yn siaradwyr Cymraeg ac roeddem yn credu y byddai'n anrhydedd i'w gwobrwyo nhw hefyd."

Cafodd Arwel Gruffydd ei enwebu fel y cyfarwyddwr gorau am y ddrama Llwyth ac mae Tom Rogers wedi derbyn enwebiad am y cynllun gorau am yr un ddrama a James Clarke am y gerddoriaeth a'r sain orau.

Derbyniodd y ddrama hefyd wobr am yr ensemble gorau a'r awdur Dafydd James am y ddrama orau.

Ymhlith y Cymry Cymraeg eraill sydd wedi eu henwebu y mae pedair cantores yn y categori'r gantores opera gorau, Rebecca Evans, Fflur Wyn, Eldrydd Cynan a Catrin Aur.

Mae Sharon Morgan, Lisa Palfrey, Helen Griffin, Mari Phillips a Teifi Emerald yn cystadlu am yr actores gorau yn Saesneg a Craig Gazey, Richard Elfyn, David O'Toole, Richard Lynch a Simon Nehan am yr actor gorau yn Saesneg.

Mae'r cynllun wedi cyd-weithio ers mis Hydref 2010 gyda chwmnïau Sherman Cymru, Theatr Genedlaethol, National Theatre Wales, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Llenyddiaeth Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Theatr na Nog, Earthfall, Cyngor Celfyddydau Cymru, Noson Allan a gwefan Theatrau Cymru.

Mae Mr O'Donnell a'r beirniaid ifanc yn gobeithio y bydd y gwobrau yn rhywbeth blynyddol.

Fe fydd y seremoni yn cael ei chyflwyno nos Sadwrn gan y ddarlledwraig Nicola Haywood Thomas.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.