'Gwrthwynebu' uno gwasanaethau hanesyddol y Comisiwn Brenhinol a Cadw
- Cyhoeddwyd
Mae yna "wrthwynebiad sylweddol" i gynlluniau ar gyfer ad-drefnu'r corff sy'n ymchwilio i safleoedd hanesyddol yng Nghymru.
Dyna rybudd pwyllgor o Aelodau'r Cynulliad wrth ymchwilio i benderfyniad y Gweinidog Treftadaeth, Huw Lewis, i uno'r Comisiwn Brenhinol gyda Cadw, corff cadwraeth Llywodraeth Cymru.
Mae'r pwyllgor cymunedau wedi cynnal ymchwiliad ac wedi canfod fod 'na anesmwythyd ymhlith academyddion a mudiadau treftadaeth i'r syniad o uno.
Dywedodd Mr Lewis bod angen newid er mwyn gwrthsefyll cyfnod o doriadau mewn gwariant.
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi bod yn ymchwilio i adeiladau hanesyddol a safleoedd archeolegol ers ei sefydlu yn 1908.
Mae miliynau o dudalennau o ddogfennau a lluniau yn ymwneud â threftadaeth Cymru yn ei archif yn Aberystwyth.
Mae Mr Lewis wedi dweud ei fod yn poeni "am y sector...o ystyried y pwysau economaidd dros y blynyddoedd nesaf".
'Hyd braich'
Wedi penderfynu "nad yw'r sefyllfa bresennol yn opsiwn", mae'n disgwyl achos busnes erbyn mis Mawrth ar uno'r comisiwn gyda Cadw o fewn Llywodraeth Cymru.
Bydd papur gwyn ar fesur seneddol treftadaeth, sy'n paratoi'r ffordd tuag at ddeddfwriaeth, yn dilyn.
Ond mae'r beirniaid yn pryderu am yr oblygiadau ar gyfer annibyniaeth y comisiwn.
Dywedodd cyn-gadeirydd y comisiwn, Yr Athro Ralph Griffiths o Brifysgol Abertawe, wrth raglen Sunday Politics y BBC: "Os mai'r cynnig yw ei symud i fod o fewn y llywodraeth ei hun - sy'n dueddiad y dyddiau yma - byddai'n colli'r ansawdd hyd-braich a'r hyder sydd gan bobl yn y corff".
Roedd Yr Athro Griffiths ymhlith 83 o dystion a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor.
Mewn llythyr at Mr Lewis, mae'r pwyllgor yn dweud bod rhai yn credu y gallai ad-drefnu ddod â manteision damcaniaethol.
"Fodd bynnag, o leiaf o ran niferoedd, roedd gwrthwynebiad sylweddol i'r posibilrwydd y gallai swyddogaethau'r Comisiwn gael eu huno â swyddogaethau sefydliadau eraill, gan gynnwys Cadw - yn enwedig os byddai'n digwydd o fewn Llywodraeth Cymru ei hun."
Dywedodd yr Aelod Democratiaid Rhyddfrydol Peter Black, sy'n un o aelodau'r pwyllgor: "Yr ydym wedi synnu oherwydd mae'n ymddangos bod yr holl gyngor yr ydym wedi ei dderbyn fel pwyllgor a mwyafrif y cyngor a gafodd o fel gweinidog yn dweud y dylid uno 'tu allan i'r llywodraeth'.
"Dwi'n poeni mai dim ond penderfyniad ideolegol yw hyn, Llywodraeth Cymru unwaith eto'n canoli popeth i'w hun."
Wrth roi tystiolaeth i'r pwyllgor dywedodd y Comisiwn - sy'n derbyn tua £2 miliwn y flwyddyn gan y llywodraeth - eu bod yn feirniadol o Cadw am dorri asedau.
'Angen newid'
"Rydym yn gefnogol i'r gweinidog wrth ystyried opsiynau yn y gobaith o sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i'r cyrff wrth i lai o gyllid ddod o'r llywodraeth," meddai datganiad.
"Rydym yn falch o gyfraniad y Comisiwn i fywyd Cymru dros y 105 mlynedd diwethaf ac yn obeithiol y bydd yr ymchwiliad tryloyw yma yn nodi'r model gorau ar gyfer y gwasanaethau yn y dyfodol.
Pan ofynnwyd i Mr Lewis pam ei fod am fwrw ymlaen gyda'r uno, dywedodd wrth y rhaglen "bod angen".
"Mae pawb sy'n gysylltiedig gyda'r ddadl yma ac yn agos ati yn derbyn nad ydi'r sefyllfa bresennol yn opsiwn ar hyn o bryd.
"Er mwyn cael sector cynaliadwy yng Nghymru mae angen newid."
Ond mae Alun Ffred Jones, cyn-weinidog treftadaeth ac AC Plaid Cymru, yn dweud nad ydi o wedi ei ddarbwyllo gan yr angen i ddod a'r gwasanaeth o dan adain y llywodraeth.
"Dwi'n credu bod y gweinidog o dan rywfaint o bwysau gan ei adran a gan Cadw," meddai.
"Dwi'n credu bod 'na deimlad ei bod yn wiriondeb cael dau gorff sy'n gweithredu mewn meysydd tebyg iawn ac felly bod 'na bwysau oddi mewn."