Bygythiad streic oherwydd cynllun llythrennedd a rhifedd
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru wedi cael ar ddeall bod un o undebau athrawon mwy Cymru yn bygwth mynd ar streic o ganlyniad i gynlluniau newydd i godi safonau llythrennedd a rhifedd.
Dywed NUT Cymru nad oes 'na ddigon o drafodaeth wedi bod rhwng y llywodraeth ac athrawon ynglŷn â'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol.
Mae safonau llythrennedd a rhifedd wedi bod yn bryder i Lywodraeth Cymru ers rhai blynyddoedd.
Mae disgwyl i Weinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, gyhoeddi amlinelliad o'i gynllun i osod safonau cenedlaethol yn ddiweddarach ddydd Llun.
Mae'r cynllun yn cynnwys prawf darllen blynyddol a rhaglen gymorth genedlaethol gwerth dros £6 miliwn i helpu ysgolion.
Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn defnyddio profion darllen a nifer yn defnyddio rhyw fath o brofion mathemategol neu rifedd.
Nod cynllun Llywodraeth Cymru yw cyflwyno mwy o gysondeb o ran y profion a chynnig adlewyrchiad mwy cywir o allu a chynnydd disgyblion.
Dywedodd undeb athrawon yr NUT y byddai'r cynlluniau newydd yn cynyddu llwyth gwaith eu haelodau, haeriad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wadu.
Er mai streic fyddai'r cam olaf, dywedodd yr undeb fod ei 13,000 o aelodau yng Nghymru yn barod i weithredu pe na bai eu pryderon yn cael eu lleddfu.
Straeon perthnasol
- 21 Hydref 2012
- 5 Gorffennaf 2012
- 7 Medi 2012