Dynes 28 oed wedi marw ar ôl gwrthdrawiad yn sir Merthyr Tudful
- Cyhoeddwyd
Mae dynes 28 oed wedi marw ar ôl gwrthdrawiad yn gynnar bore Sadwrn yn Sir Merthyr Tudful.
Roedd y ddynes yn teithio mewn car Honda Civic gwyrdd pan fu mewn gwrthdrawiad â choeden tua 1.37am ger Mynwent Pant ar y ffordd rhwng Pontsticill a Phant.
Cafodd y ddynes, sy'n byw yn lleol, anafiadau difrifol a bu farw'n ddiweddarach.
Mae dyn lleol 36 oed yn cael triniaeth yn yr ysbyty am anafiadau difrifol.
Mae teulu'r ddynes wedi cael gwybod ac yn cael cefnogaeth swyddogion heddlu arbenigol.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru eu bod yn apelio am dystion i'r gwrthdrawiad neu unrhyw un oedd yn yr ardal ac a welodd y car cyn y ddamwain.
Mae'r heddlu hefyd yn awyddus i gael gwybodaeth am ddyn a oedd yn cerdded ar hyd y ffordd ar y pryd.
Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylen nhw gysylltu gyda'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.