Cwpan LV: Sale yn drech na'r Scarlets
- Cyhoeddwyd
Sale 36-17 Scarlets
Ar ôl cychwyn araf fe lwyddodd Sale i drechu'r Scarlets wrth i faswr y tîm cartref, Danny Cipriani hawlio 21 o bwyntiau.
Sgoriodd gais, pedair cic gosb a dau drosgais.
Daeth ceisiadau eraill Sale gan Richie Vernon, Charlie Amesbury a Charlie Ingle.
Y Scarlets oedd yn arwain o 14-3 wedi ceisiadau cynnar gan Andy Fenby a Gareth Davies.
Llwydodd Owen Williams i drosi'r ddau a sgorio cic gosb.
Doedd gan yr ymwelwyr ddim y tîm cryfaf, gyda dros 20 yn absennol, nifer oherwydd dyletswyddau rhyngwladol.
Cell gosb
Gyda'r Scarlets yn mynd ar y blaen gyda chais Fenby o gamgymeriad Cipriani fe lwyddodd yr ymwelwyr i reoli am gyfnod yn yr hanner cyntaf ac fe ddaeth haeddiant gydag ail gais.
Ond fe ddaeth y tîm cartref yn ôl.
A chyn yr hanner fe gafodd blaenwr y Scarlets, Jake Ball, ei anfon i'r gell gosb ac roedd 'na ergyd pellach i'r Scarlets wrth i'r tîm cartref ddod yn gyfartal 14-14.
Erbyn yr hanner roedd Sale ymhellach ar y blaen o 24-14.
Y Scarlets gychwynnodd y sgorio yn yr ail hanner hefyd gyda chic gosb lwyddiannus i Williams.
Ond daeth Cipriani yn ôl gyda chic gosb a gyda Rhodri Jones bellach yn y gell gosb i'r ymwelwyr fe wnaeth maswr y tîm cartref lwyddi i ganfod bwlch a chael cais wedi 63 munud.
Gyda Sale ar waelod tabl Uwchgynghrair Aviva roedd y fuddugoliaeth yn hwb i'w perfformiadau siomedig diweddar.
Mae'r fuddugoliaeth i Sale yn golygu eu bod ar frig grŵp dau yng Nghwpan LV, bwynt ar y blaen i Gaerlŷr.