Gwobrau yn dathlu gwaith byd y celfyddydau yng Nghymru

Llwyth (Sherman Cymru) Image copyright Llwyth (Sherman Cymru)
Image caption Cast y ddrama Llwyth a enillodd y wobr am y ddrama Gymraeg orau

Am y tro cynta' cafodd Gwobrau Adolygwyr Theatr Cymru eu cynnal yng Nghaerdydd i anrhydeddu unigolion a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru.

Nod y gwobrau dwyieithog a gynhaliwyd nos Sadwrn yn Theatr y Sherman yw clodfori talent byd opera, dawns a drama.

Roedd cynhyrchiad Sherman Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru, Llwyth, wedi derbyn naw enwebiad.

Y ddrama yma enillodd y wobr am y cynhyrchiad gorau yn Y Gymraeg.

Fe enillodd un o actorion Llwyth, Simon Watts, wobr yr Actor Gorau mewn cynhyrchiad Cymraeg wrth i Rebecca Harries dderbyn y wobr am yr Actores Gorau mewn cynhyrchiad Cymraeg am Llanast! gan Bara Caws.

Wrth dderbyn y wobr dywedodd Rebecca Harries ei bod yn hynod falch.

"Mae bod yr enillydd cyntaf yn rhywbeth arbennig.

"Dwi'n ei weld yn destament o fy ngwaith a gwaith pawn yng Nghymru."

Dywedodd Simon Watts ei fod yn hynod falch o'r anrhydedd.

"Mae'n bwysig bod y gwobrau yn digwydd ac mae'n bwysig bod y noson yn parhau."

Tynnu sylw at farn yr ifanc am y celfyddydau ydi un o fwriadau'r gwobrau.

Image copyright other
Image caption Simon Watts a Rebecca Harries enillodd y gwobrau am yr actorion gorau mewn cynhyrchiadau Cymraeg

Fe ddatblygodd y gwobrau oherwydd cynllun a gychwynnodd dair blynedd yn ôl i annog pobl ifanc rhwng 12 a 25 oed i adolygu'r celfyddydau yng Nghymru.

Y cynhyrchiad Saesneg gorau oedd Coriolan/us gan y National Theatre Wales gyda Richard Lynch yn ennill y wobr am yr actor gorau mewn cynhyrchiad Saesneg am yr un ddrama a Lisa Palfrey yn ennill y wobr am yr actores gorau mewn cynhyrchiad Saesneg am Before It Raines (Sherman Cymru/Bristol Old Vic).

Enillodd y ddrama The Radicalisation Of Bradley Manning gan National Theatre Wales dair gwobr, yr ensemble gorau; y defnydd gorau am gynnwys digidol/ar-lein a gwobr y Cyfarwyddwr Gorau i John McGrath.

Tim Dickel enillodd y wobr am y cynllun gorau ar gyfer Little Dogs gan National Theatre Wales/Frantic Assembly a John Hardy a Mike Beer enillodd y wobr am y gerddoriaeth gorau am Coriolan/us.

Y gantores opera Rebecca Evans enillodd y wobr am y gantores opera gorau am Briodas Figaro gan Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru a Gary Griffiths dderbyniodd y wobr am y canwr opera gorau yn La boheme gan Gwmni Cenedlaethol Cymru.

Cynhyrchiad y cwmni o La Traviata oedd y cynhyrchiad opera gorau.

Penblwydd

Katherine Chandler enillodd wobr yr ysgrifenwyr am y ddrama Before It Rains.

Dream oedd y cynhyrchiad dawns gorau gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru; Grimm Tales gan Theatr Iolo oedd yn fuddugol yn y categori'r cynhyrchiad gorai i blant neu bobl ifanc wrth i gynhyrchiad Volcano o A Cloclwork Orange dderbyn gwobr yr ifanc.

Ac fe gyflwynwyd Gwobr Cyfraniad Oes i Ann Sholem a Roy Campbell-Moore, y gŵr a'r wraig a sefydlodd Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Diversions gynt.

Maen nhw wedi cyfrannu i'r celfyddydau am dros 30 mlynedd.

Mae'r cwmni yn dathlu ei phen-blwydd eleni a dywedodd Mike Smith, wrth gyflwyno'r wobr iddyn nhw bod y cwpl wedi "cefnogi'r cwmni, y dawnswyr, yr artistiaid" dros y blynyddoedd.

"Maen nhw wedi dod a'r gorau yn y byd o Gymru dros y blynyddoedd ac wedi cysegru eu bywydau i fyd dawns gyfoes."

Dywedodd Guy O'Donnell, Swyddog Datblygu'r Celfyddydau ar gyfer Cyngor Pen-y-Bont ar Ogwr, sy'n rhedeg Cynllun y Beirniaid Ifanc, ei fod yn gobeithio y bydd hyn yn gychwyn ar uchafbwynt y celfyddydau yng Nghymru.

"Mae'r gwobrau wedi bod yn bosib oherwydd nawdd hael, amser ac arbenigedd yn ogystal â'r tîm o feirniaid ifanc," meddai.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.