Geraint Thomas yn gorffen yn drydydd yn y 'Tour Down Under'

Geraint Thomas, Tom-Jelte Slagter a Javier Moreno Image copyright AFP
Image caption Geraint Thomas, Tom-Jelte Slagter a Javier Moreno ar ôl i'r ras ddod i ben

Gorffennodd y beiciwr Geraint Thomas yn drydydd ar ddiwedd y ras feics y 'Tour Down Under' yn Awstralia.

Roedd wedi bod ar y blaen ar ôl y pedwerydd cymal cyn llithro i'r pumed safle yn y pumed cymal.

Gorffennodd 25 eiliad tu ôl i'r gŵr o'r Iseldiroedd Tom-Jelte Slagter oedd yn fuddugol ac 17 eiliad oedd rhyngddo a'r Sbaenwr Javier Moreno oedd yn ail.

"Roeddem yn siomedig ddoe," meddai ar ôl colli ei afael ar y blaen.

"Ond roedd 'na un diwrnod arall a chyfle i orffen yn drydydd.

"Roedd y bechgyn yn y tîm yn arbennig unwaith eto.

"Roedd yn ddiwrnod perffaith ac mae hi wedi bod yn wythnos lwyddiannus a dweud y gwir."

Canlyniad terfynol:

1. Tom-Jelte Slagter (Iseldiroedd/Blanco) 18:28:32"

2. Javier Moreno (Sbaen/Movistar) +17"

3. Geraint Thomas (Prydain/Team Sky) +25"

4. Jon Izagirre (Sbaen/Euskaltel) +32"

5. Ben Hermans (Gwlad Belg/RadioShack) +34"

6. Wilco Kelderman (Iseldiroedd/Blanco)

7. Gorka Izagirre (Sbaen/Euskaltel) +36"

8. Daniele Pietropolli (Yr Eidal/Lampre)

9. Tiago Machado (Portiwgal/RadioShack) +38"

10. Jussi Veikkanen (Ffindir/FDJ) +41"