Addewid i blismona Dyfed Powys wrth gynyddu'r gyllideb
- Cyhoeddwyd
Fe fydd cynnydd yng nghyllideb Heddlu Dyfed Powys yn darparu "gwasanaeth effeithiol" wrth gadw'r costau i lawr i breswylwyr, yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd y llu, Christopher Salmon.
Roedd yn siarad ar ôl i gynigion gael eu cymeradwyo i godi 3.9% yn y gyllideb sy'n cael ei ariannu gan dreth y cyngor.
Mae'n golygu cynnydd blynyddol o £198 i £206 i bobl sy'n byw mewn tai band D.
Dywedodd Mr Salmon y gallai plismona wella "er ein bod mewn cyfnod ariannol anodd".
Derbyniodd Banel Heddlu a Throsedd Dyfed Powys ei gynllun a fyddai'n gweld cyllideb y llu yn £98 miliwn yn 2013/14.
Yn ôl Mr Salmon, sy'n Geidwadwr, bod y cynnydd yn llai na'r cynnydd o rhwng 4.2% a 5% a gafwyd yn y blynyddoedd diwethaf a'i fod yn cyfateb i gynnydd o 14.9c yr wythnos i'r rhai sy'n byw mewn tai Band D ar gyfertaledd.
"Fe her yw cael cydbwysedd rhwng y rhai sy'n cynnig gwasanaeth plismona effeithiol y mae gan bobl ymddiriedaeth ynddo a sicrhau'r gost lleia' posib i'r trethdalwyr.
"Dwi'n meddwl bod fy nghynlluniau i yn cyflawni hyn.
"Mae'r gyllideb yn caniatáu peth cyfle ar gyfer buddsoddiad sydd wir ei angen mewn adnoddau newydd ac yn dal i'n galluogi i ymdrin â digwyddiadau annisgwyl yn y dyfodol.
"Diolch i waith gwych yr holl heddlu, rydym yn parhau i wella ein gwasanaeth drwy gyfnod ariannol anodd."
Mae'r cynlluniau ar gael tan Chwefror 6 ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.
Straeon perthnasol
- 25 Ionawr 2013
- 7 Rhagfyr 2012
- 22 Tachwedd 2012
- 16 Tachwedd 2012
- 16 Tachwedd 2012