Gwrthdrawiad rhwng pedwar car ar yr M4 mewn tywydd garw
- Published
Cafodd 11 o bobl eu hanafu ar ôl gwrthdrawiad rhwng pedwar car ar lôn ddwyreiniol yr M4 yn ardal Margam.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad rhwng Margam a'r Pîl tua 12.33pm ddydd Sul.
Dywedodd yr heddlu bod "sawl cerbyd" wedi taro yn erbyn ei gilydd rhwng cyffordd 38 a 36 yn fuan ar ôl iddi fwrw cenllysg yn yr ardal.
Yn wreiddiol roedd yr heddlu wedi son am wyth o bobl wedi eu hanfu wedi gwrthdrawiad rhwng pum car.
Cafodd chwech o'r 11 driniaeth yn yr ysbyty.
Galwadau eraill
Cafodd y ddamwain effaith ar y lôn orllewinol wrth i bobl arafu i weld beth oedd wedi digwydd.
Mae'r ffordd bellach yn glir.
Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans eu bod wedi eu galw i ddau achos arall ar y draffordd.
Fe adawodd car y lôn orllewinol rhwng Cyffordd 34 (Meisgyn) a 35 (Pencoed) toc cyn 1pm.
Ac am 1.15pm galwyd y gwasanaeth i'r lôn orllewinol rhwng cyffordd 36 (Sarn) a 37 (Y Pîl) ar ôl i gar daro'n erbyn coeden.
Chafodd neb ei anafu yn y digwyddiadau yma.