Cwpan LV: Y Gleision yn cael eu trechu yn erbyn Saracens
- Cyhoeddwyd
Cwpan LV: Saracens 19-11 Gleision
Nils Mordt wnaeth lwyddo gyda'i gicio i roi buddugoliaeth i Saracens yn erbyn Gleision Caerdydd yng Nghwpan LV ym Mharc Allianz.
Llwyddodd i sgorio 14 o'r 19 pwynt gafodd ei dîm, James Short gafodd unig gais y tîm cartref.
Robin Copeland gafodd unig gais y Gleision wrth i Ceri Sweeney a Gareth Davies gael gweddill pwyntiau'r ymwelwyr.
Dyma oedd gêm gyntaf y Saracens ar dir artiffisial yn eu cartref newydd.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol