Angen mwy o gyfleoedd i bobl o fewn y celfyddydau
- Published
Mae grŵp o aelodau'r cynulliad wedi galw am gynllun gan y llywodraeth i sicrhau bod mwy o gyfleoedd i bobl o fewn y celfyddydau yng Nghymru.
Diffyg cyllid sydd wedi amharu ar allu llywodraethau lleol, mudiadau celfyddydol ac unigolion i ddarparu cyfleoedd cystal â'r hyn oedd ar gael yn y gorffennol, yn ôl tystiolaeth gan y pwyllgor.
Yn ôl tystiolaeth a roddwyd i'r pwyllgor mae mudiadau celfyddydol yn poeni ynglŷn â'r sefyllfa ariannol.
Mae rhai yn honni bod diffyg cyllid yn eu rhwystro nhw rhag darparu rhai gweithgareddau.
Mae pryder hefyd am drafnidiaeth a diffyg cyfleoedd i bobl sy'n byw mewn rhai ardaloedd gwledig.
Yn eu hadroddiad mae'r pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu cynllun i sicrhau bod rhagor o gyfleoedd ar gael i bobl elwa o'r celfyddydau.
Maen nhw hefyd yn gofyn i Gyngor y Celfyddydau sicrhau bod gan y sector ymwybyddiaeth o'r holl ffynonellau ariannu sydd ar gael.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n edrych yn fanwl ar gasgliadau'r adroddiad, tra bod Cyngor y Celfyddydau wedi ei groesawu.