Awyren yn gorfod glanio ar frys yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i awyren lanio ar frys ym Maes Awyr Caerdydd fore dydd Llun oherwydd nam technegol.
Daeth i'r amlwg fod rhywbeth o'i le tua 10:43am a glaniodd yr awyren am 10:48am.
Cafodd timau gweithredol a chriwiau tân eu galw i'r digwyddiad ond doedd yna ddim nam ar yr awyren a chafodd pob un o'r 138 o deithwyr eu cludo oddi arni'n ddiogel.
Cafodd awyrennau eraill eu hatal rhag cychwyn o, neu lanio yn y maes awyr wrth i'r awyren BA lanio yng Nghaerdydd.
Roedd yr awyren Boeing 747, hediad BA196, ar ei ffordd o Houston yn yr Unol Daleithiau i faes awyr Heathrow yn Llundain.
Penderfynodd y peilot ddargyfeirio'r daith wedi i nam technegol gael ei gofnodi ar banel rheoli'r awyren.
Mae peirianwyr nawr yn asesu i weld beth yn union aeth o'i le.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol