Carchar am ladd pensiynwr
- Published
Mae dyn wedi ei garcharu am isafswm o 22 flynedd am lofruddio Peter Lewis yng Nghaerdydd yn 2012.
Fe wnaeth William Jones, 32 oed, drywanu Mr Lewis yn ei stumog ar ôl curo ar y drws anghywir am hanner awr wedi dau'r bore ar 28 Ebrill 2012.
Roedd Peter Lewis, 68 oed, yn byw yn yr un stryd â chyn gariad Jones yn Claude Road yn ardal y Rhath.
Dywedodd y barnwr Mr Ustus John Griffiths Williams fod yna gyferbyniad llwyr rhwng bywyd Jones a bywyd Peter Lewis.
'Dyn hunanol'
"Yn 32 oed, roeddech yn gaeth i gyffuriau, yn ddyn ag ychydig iawn o barch ar gyfer ei gyd-ddyn.
"Roedd Peter Lewis yn ddyn tawel a hynaws, a wnaeth, ar waethaf ei anableddau, fyw bywyd llawn yn helpu eraill pan fedrai.
"Doedd dim malais yn perthyn iddo ond roedd y rhai oedd yn ei adnabod yn ei ddeall. Roedd yna nifer yn meddwl yn annwyl amdano.
"Roedd ei lofruddiaeth yn ddiwedd creulon i fywyd annwyl."
Roedd Jones wedi gwadu llofruddiaeth, ond fe'i cafwyd yn euog gan reithgor yn Llys y Goron Caerdydd.
Fe'i dedfrydwyd i garchar am oes, a bydd yn gorfod treulio isafswm o 22 mlynedd dan glo cyn cael ei ystyried am barôl.
Dywedodd y barnwr "Rydych yn ddyn hunanol a dideimlad sydd heb ddangos unrhyw edifeirwch o gwbl.
"Pan ddaeth Peter Lewis at y drws, roedd hi'n amlwg ei fod yn ddyn oedrannus, bach ac eiddil. Gwnaeth e ddim i chi o ran pryfociad. Fe golloch chi eich tymer a'i drywanu."
Straeon perthnasol
- Published
- 25 Ionawr 2013
- Published
- 24 Ionawr 2013
- Published
- 23 Ionawr 2013
- Published
- 16 Ionawr 2013