Cynrychiolwyr iechyd yn anhapus

  • Cyhoeddwyd
Babi o dan ofal arbennigFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Mae yna fwriad i symud gofal dwys i fabanod dros y ffin

Mae cynrychiolwyr staff meddygol wedi cynnal cyfarfod i amlinellu eu gwrthwynebiad i argymhellion i ad-drefnu gofal iechyd babanod yn y gogledd.

Mae Cymdeithas Feddygol y BMA, Coleg Brenhinol y Nyrsys a Choleg Brenhinol y Bydwragedd yn anhapus gydag argymhelliad i symud rhai gwasanaethau dros y ffin.

Bwriad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw symud gofal gwasanaethu gofal dwys babanod i Ysbyty Arrowe Park yng Nghilgwri.

Mewn cyfarfod arall nos Lun, dywedodd rhai sy'n gwrthwynebu cau Ysbyty Coffa Blaenau Ffestiniog eu bod am gael cyngor cyfreithiol er mwyn canfod a oes modd herio'r penderfyniad.

Babanod

Byddai symud y gwasanaeth gofal dwys i fabanod yn golygu cau unedau yn Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam.

Bydd cynrychiolwyr y gweithwyr iechyd yn cynnal cyfarfod gyda'r wasg er mwyn amlinellu eu pryderon.

Dadl y rheolwyr yw nad yw'r unedau presennol yn dilyn safonau Prydeinig o ran darparu gofal.

Yn gynharach yn y mis fe wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer ad-drefnu'r gwasanaeth iechyd yn y gogledd.

Gohirio

Yn ogystal â'r newid i wasanaeth gofal dwys babanod, roedd penderfyniad dadleuol i gau ysbytai cymunedol Blaenau Ffestiniog, Llangollen, Y Fflint a Phrestatyn.

Ddydd Llun penderfynodd cynghorwyr sir yng Nghonwy ohirio cynnal pleidlais o ddiffyg hyder yn rheolwyr y Bwrdd.

Roedd y cynnig hefyd yn " ...yn galw ar Weinidog Llywodraeth Cymru i ymyrryd, gwrthod penderfyniadau'r bwrdd iechyd a rheoli'r Gwasanaeth Iechyd yn y gogledd yn uniongyrchol."

Dywedodd y cynghorydd Cheryl Carlisle, un o'r rhai wnaeth y cynnig o ddiffyg hyder, ei bod yn cytuno gyda'r penderfyniad i ohirio.

"Mae'r gwasanaeth yn wynebu argyfwng, ac mae mwy o bwysau yn cael ei roi ar awdurdodau lleol.

"Drwy wneud y cynnig, fe wnaeth Conwy osod ei farc. Mae cynghorau eraill wedi cysylltu yn cynnig cefnogaeth ac yn gofyn am osod cynigion tebyg.

"Ond fe fyddai wedi bod yn anghywir yn foesol i wrthod trafod gyda rheolwyr y gwasanaeth iechyd pe baen nhw'n cynnig cyfarfod o'r fath."

Y gred yw y bydd y bleidlais yn cael ei gohirio am bythefnos.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol