BBC Cymru Fyw

Cymry Llundain yn arwyddo Gonzalo Tiesi

Published
image captionMae Tiesi wedi chwarare 32 tro dros Yr Ariannin

Mae Clwb Rygbi Cymry Llundain wedi arwyddo'r chwaraewr rhyngwladol o'r Ariannin, Gonzalo Tiesi.

Mae'r canolwr 27 oed, sydd wedi chwarae 32 tro dros Yr Ariannin, wedi chwarae yn yr Uwchgynghrair o'r blaen, gyda'r Gwyddelod yn Llundain a Harlequins.

Mae'n symud i'r Cymry yn Llundain o glwb San Isidro yn Yr Ariannin

Roedd yn aelod o dîm y Piwmas wnaeth guro Cymru 26-12 yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd.

"Mae arwyddo Gonzalo Tiesi yn gam arwyddocaol gan y clwb," meddai Prif Hyfforddwr Cymry Llundain Lyn Jones.

"Mae e'n chwaraewr o safon ryngwladol wnaeth argraff yn ystod yr Hydref pan oedd e'n chwarae i'r Ariannin."

Ym Mehefin cafodd Cymry Llundain ddyrchafiad i Uwchgynghrair Lloegr.

Ar hyn o bryd mae'r Alltudion yn y 10fed safle yn yr Uwchgynghrair.

Straeon perthnasol

  • Cymry Llundain yn arwyddo Gavin Henson

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol