Cynghorwyr Conwy'n gohirio cynnig diffyg hyder
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Bwrdeistref Conwy wedi penderfynu gohirio cynnig o ddiffyg hyder yn rheolwyr y Gwasanaeth Iechyd yn y gogledd.
Roedd tri chynghorydd yn ardal Bae Colwyn wedi arwyddo'r cynnig oedd i fod i gael ei drafod ddydd Llun.
Ond clywodd y cyfarfod arbennig o'r cyngor llawn ddydd Llun fod rheolwyr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cytuno i drafod pryderon y cyngor ynglŷn â newidiadau.
Yn y cyfamser, dyw Cyngor Iechyd Cymuned y gogledd ddim wedi penderfynu eto a fyddan nhw'n gofyn i Weinidog Iechyd Cymru Leslie Griffith ailystyried cynlluniau dadleuol.
Roedd y cyngor iechyd cymuned yn trafod cynlluniau'r bwrdd iechyd fore Llun a bydd rhaid iddyn nhw ymateb erbyn Mawrth 1.
Roedd y ddau gyfarfod fwy nac wythnos ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyhoeddi nifer o newidiadau.
'Cymryd sylw'
Cyhoeddodd y bwrdd eu bwriad i gau pedwar ysbyty cymunedol ym Mlaenau Ffestiniog, Llangollen, Y Fflint a Phrestatyn.
Maen nhw hefyd am symud y gwasanaethau gofal dwys i fabanod o Ysbytai Glan Clwyd a Wrecsam Maelor i Ysybty Arrowe Park yng Nghilgwri.
Dywedodd cynghorydd Plaid Cymru ac arweinydd Cyngor Conwy Dilwyn Roberts wrth gyfarfod Cyngor Conwy: "Mae'r cynnig hwn wedi gorfodi pobl i gymryd sylw. Dyw'r ffôn heb stopio canu ers i'r cynnig gael ei gyhoeddi.
"Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cytuno i gyfarfod â ni ar frys.
"Rwy'n gobeithio y bydd hwn yn gyfarfod adeiladol i ni a gweddill Gogledd Cymru."
'Gwasanaethau lleol'
Dywedodd y cynghorydd Llafur a dirprwy arweinydd y cyngor, Ronnie Hughes: "Rwy'n anfodlon i fwrw ymlaen gyda'r cyfarfod oherwydd mae'n rhaid i chi ymddiried yn y bobl rydych yn delio â nhw.
"Dwi ddim yn ymddiried ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
"A fyddwn ni'n newid eu meddyliau pan fyddan nhw'n dod yma ymhen pythefnos?
"Dwi ddim eisiau gadael y cyfarfod ar ôl cael fy nhwyllo ganddyn nhw cyn iddyn nhw wneud fel y mynnan nhw."
Geiriad cynnig Cheryl Carlisle (Ceidwadwyr), Brian Cossey (Democratiaid Rhyddfrydol) a Phil Edwards (Plaid Cymru) yw: "Mae'r cyngor wedi colli ffydd yng ngallu uwch reolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu gwasanaethau iechyd digonol ac effeithlon i bobl Conwy.
"Rydym yn galw ar Weinidog Llywodraeth Cymru i ymyrryd, gwrthod penderfyniadau'r bwrdd iechyd a rheoli'r Gwasanaeth Iechyd yn y gogledd yn uniongyrchol."
Cyfeirio
Roedd y cynnig yn galw ar gynghorau eraill y gogledd i weithredu yn yr un modd ac yn galw ar y Cynghorau Iechyd Cymuned i gyfeirio penderfyniadau'r bwrdd iechyd i'r Gweinidog Iechyd.
Wrth gyhoeddi'r newidiadau ar Ionawr 18, dywedodd cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yr Athro Merfyn Jones: "Y pwyslais ar gyfer y dyfodol ydi gwasanaethau lleol ac mae hynny yn dibynnu ar feddygon teulu, nyrsys a chanolfannau iechyd ac ati ond hefyd ar ofal cymdeithasol a gofal o wahanol fathau.
"Mae angen i ni sicrhau ein bod yn darparu yn lleol ac yn y cartref yr un pryd fel bod y gwir arbenigedd yn yr ysbytai pan fo angen."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2013