Gwerthu llyfr hanesyddol
- Published
Cafodd llyfr cofnodion sy'n taflu goleuni ar sut y daeth anifeiliaid i gael eu dangos yn Sw Mynydd Cymru ym Mae Colwyn ei werthu mewn ocsiwn ddydd Mawrth.
Cafodd ei werthu gan Rogers Jones a'i Gwmni, arwerthwyr o Fae Colwyn, am £1,400.
Cafwyd hyd i'r llyfr wrth glirio tŷ yng Nghorwen, ac mae'n dangos symudiadau anifeiliaid Sw'r Belle Vue ym Manceinion a ddaeth gan sefydlydd Sw Mynydd Cymru, Robert Jackson.
Pan agorodd yn 1963, fe gymrodd y sw yng Nghymru'r anifeiliaid o'r Belle Vue pan gaeodd hwnnw.
Dywedodd cyfarwyddwr presennol Sw Bae Colwyn, Nicholas Jackson, bod y llyfr yn rhoi cipolwg ar ddiwedd cyfnod yn y maes.
'Cipolwg rhyfeddol'
Dywedodd David Rogers Jones o'r cwmni arwerthwyr: "Fe gawson ni'n galw i glirio tŷ yng Nghorwen, ac fe ddaethon ni o hyd i'r llyfr. Does gennym ddim syniad sut y aeth i fod yno.
"Mae'n rhoi cipolwg rhyfeddol y tu ôl i'r llenni o'r hyn yr oedd y cyhoedd yn ei weld, gan restru'r holl rywogaethau, rhyw bob anifail a phryd y daethon nhw i'r sw, cyflwr a phris yr anifeiliaid a disgwyliad oes bob un."
Dywedodd Mr Rogers Jones mai dyfalu yn unig fyddai wrth geisio rhoi gwerth ar y llyfr, ond ei fod yn "gofnod unigryw".
"Mae'r ffaith fod Robert Jackson, tad Nicholas Jackson y cyfarwyddwr presennol, mor amlwg yn y llyfr ond yn ychwanegu at ei arwyddocâd a'i werth," ychwanegodd.
Caeodd Sw'r Belle Vue yn 1977, ac mae Nicholas Jackson yn cofio nifer o'r anifeiliaid yn cael eu symud i Gymru.
Cofnodion trist
"Roedd gan fy nhad berthynas agos gyda'r Belle Vue, a dyw'n ddim syndod i mi ei fod wedi ei gofrestru yn y llyfr fel rhywun a roddodd lawer o anifeiliaid iddyn nhw.
"Daeth nifer o anifeiliaid yma ychydig cyn i'r Belle Vue gau.
Roedd yr anifeiliaid ddaeth i Fae Colwyn o Fanceinion yn cynnwys tri charw, dau lwynog Arctig a gafodd eu geni yn y sw ym Manceinion, dwy ddafad Sbaenaidd, dwy afr Barbary a bwncath Augur.
Mae cofnodion trist yn y llyfr hefyd gydag achos marwolaeth rhai o'r anifeiliaid yn cael ei nodi fel "gorfwydo gan y cyhoedd".
Bu farw caiman brith yn 1963 "tra ar fenthyg i gwmni fel rhan o arddangosiad mewn ffenest siop".