Tipyn o gamp?
- Published
Yn dilyn beirniadaeth gan y cyhoedd, mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi newidiadau i brisiau tocynnau gemau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2014.
Mewn datganiad, mae'r Undeb wedi cyhoeddi y bydd prisiau tocynnau gemau yn erbyn Yr Alban a'r Eidal yn gostwng, ac ni fydd cynnydd eleni yn y pris am docyn i weld gêm Ffrainc.
Bydd tocynnau i gêm yr Eidal yn 2014 yn costio £25, £35, £55 a £65. Mae'r pris drytaf yr un fath ag yn 2009, ac mae hyn yn ostyngiad o 18% ar brisiau eleni.
Fe fydd tocynnau i gêm Yr Alban yn costio £25, £40, £60 a £70. Mae hyn yn ostyngiad o 12.5% ar bris y tocyn drytaf eleni.
Ar gyfer gêm Ffrainc, bydd y tocynnau'n costio £30, £50, £75 a £80, sef yr un pris â gêm Seland Newydd yr hydref diwetha'.
Does dim cyhoeddiad wedi bod am brisiau tocynnau gemau'r hydref 2013, ond ni fydd cynnydd yn yr ystod o brisiau o'r hyn oedd yn 2012.
'Gwerthu bob tocyn'
Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis:
"Mae'r Undeb am gynorthwyo bob un o'n clybiau a'n cefnogwyr i fwynhau rygbi rhyngwladol.
"Rydym wedi gwerthu bob tocyn ar gyfer gemau eleni, ac rydym am wneud yr un peth y flwyddyn nesaf.
"Rydym am gynnig y cyfle i gymaint o bobl ag sy'n bosib i weld Cymru'n chwarae gartref gyda'r newid yma.
"Gyda thair gêm gartref yn 2014, gall cefnogwyr ddechrau gwneud trefniadau o flaen llaw yn hyderus.
"Mae Undeb Rygbi Cymru am chwarae ei ran yn cefnogi clybiau a chefnogwyr Cymru yn y cyfnod economaidd anodd yma."
Dywed yr Undeb mai'r cyfle gorau i sicrhau tocyn yw ymuno gyda'r clwb rygbi lleol, gan mai i'r clybiau y mae'r tocynnau cyntaf yn cael eu dosbarthu cyn i'r seddau sy'n weddill gael eu gwerthu i'r cyhoedd yn uniongyrchol.
Gall y cyhoedd gofrestru eu diddordeb am docyn am hanner dydd ar ddydd Gwener, Chwefror 1, 2013 - y diwrnod cyn i Gymru wynebu Iwerddon yn y bencampwriaeth eleni.