Llywodraeth Cymru'n taro bargen â meddygon
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod wedi taro bargen wedi i feddygon teulu ofyn am gynnydd o 1.5%.
Roedd anghydfod wedi bod â Chymdeithas y Meddygon oherwydd y gwasanaethau oedd yn cael eu darparu.
Daeth trafodaethau am newid cytundeb meddygon i ben wrth i'r mudiad sy'n eu cynrychioli honni bod "gormod o lwyth gwaith".
Dywedodd y llywodraeth fod y cytundeb gafodd ei gyhoeddi ddydd Llun yn delio â rhai o'r materion yr oedd meddygon wedi eu codi.
Gofynnwyd i Gymdeithas y Meddygon am ymateb.
Yn ddiolchgar
Mae'r Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths wedi dweud ei bod yn ddiolchgar am ymroddiad meddygon i'r Gwasanaeth Iechyd ac y byddai'r cytundeb yn golygu y gallai'r ddwy ochr gydweithio er mwyn gwella gwasanaethau i gleifion.
"Yn sicr, mae'r llywodraeth wedi gwrando'n ofalus ar sylwadau meddygon am y llwyth gwaith tra'n pwysleisio'r angen i gyflymu newid o fewn gofal sylfaenol," meddai.
"Mae ein cynllun pum mlynedd ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd, Law yn Llaw at Iechyd, wedi ei seilio ar wasanaethau cymunedol gyda chleifion yn ganolog iddi, ac mae'n rhoi ansawdd, atal a thryloywedd wrth galon gofal iechyd."
Roedd Cymdeithas y Meddygon wedi dweud y byddai cyrraedd targedau, er enghraifft gweld cleifion â phwysau gwaed uchel, yn golygu llai amser i wella mynediad i gleifion eraill.
Yn ôl y mudiad, roedd meddygon ar gyfartaledd yn gweithio 46 o oriau'r wythnos ar incwm cyfartalog o £92,000.
Straeon perthnasol
- 28 Ionawr 2013
- 26 Tachwedd 2012
- 31 Hydref 2012