Trên a char mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae trên o Ddoc Penfro i Abertawe wedi bod mewn gwrthdrawiad â char ar groesfan ger Maenorbŷr yn Sir Benfro.
Chafodd neb ei anafu.
Gadawodd y trên Ddoc Penfro am 5.09pm ac roedd wyth o deithwyr arno.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig wedi 5.35pm.
Mae ymchwiliad wedi dechrau i achos y ddamwain a'r rheilffordd ynghau am y tro.