Trên yn taro car ar groesfan
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad wedi dechrau wedi i drên daro yn erbyn car ar groesfan yn Sir Benfro brynhawn Llun.
Tarodd y gwasanaeth 5:09pm o Ddoc Penfro i Abertawe yn erbyn y cerbyd ym Maenorbŷr, ond disgrifiwyd y digwydd gan Heddlu Trafnidiaeth Prydain fel "cilergyd".
Roedd wyth o deithwyr ar y trên, ond chafodd neb anaf yn y digwyddiad.
Mae'r lein wedi ei chau wrth i'r ymchwiliad barhau, ac mae gwasanaeth bws yn cludo teithwyr yn y cyfamser.
Dywedodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain eu bod wedi cael eu galw i'r safle ychydig wedi 5:35pm ynghyd â swyddogion o Heddlu Dyfed Powys.
Mewn datganiad, dywedodd HTP: "Cafodd car ei daro mewn cilergyd gan drên ar groesfan wledig.
"Yn ffodus ni chafodd neb anaf o ganlyniad i'r digwyddiad, ac rydym yn gweithio i geisio canfod achos y gwrthdrawiad. Fe fyddwn yn hysbysu'r Uned Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd."
Dywedodd Trenau Arriva Cymru: "Tarodd y gwasanaeth 5:09 o Ddoc Penfro i Abertawe yn erbyn car ar y groesfan agored ym Maenorbŷr.
"Cilergyd ydoedd gydag ychydig iawn o ddifrod. Doedd dim anafiadau i yrrwr y car, y ddau oedd ar griw'r trên na'r wyth o deithwyr oedd ar y trên."