Rhybudd am fwy o lifogydd
- Cyhoeddwyd

Mae rhybudd fod mwy o lifogydd yn bosib yng Nghymru ddydd Mawrth oherwydd mwy o law a gwyntoedd yn cyrraedd hyd at 70 mya.
Ar hyn o bryd mae rhybudd oren (byddwch yn barod am broblemau) mewn grym rhwng Abertawe a Chaerdydd, yn enwedig ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle y gallai hyd at 50mm neu ddwy fodfedd o law ddisgyn.
Mae rhybudd llifogydd ar Afon Dyfrdwy rhwng Llangollen a Chaer a'r manylion i gyd ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd.
Glaw yn lledu
Yn ôl yr asiantaeth, bydd y glaw yn lledu o'r de-orllewin i'r gogledd-ddwyrain.
Dywedodd Traffig Cymru fod llifogydd yn effeithio ar y B4393 a'r A495 rhwng Llansantffraid-ym-Mechain a'r A490 ym Mwlch-y-cibau ym Mhowys.
Mae ffordd yr A490 ynghau yn Y Trallwng yn sgil llifogydd rhwng cylchfan Sarn-y-Bryn Caled, yr A458/A483, a'r B4377 yn Kingswood.
Ym Mlaenau Gwent mae'r B4771 rhwng Heol Blaencyffin, Llanhilleth, a'r A472 Heol Hafod-yr-ynys, Swffryd, ynghau oherwydd tirlithriad ddydd Llun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2013