Dedfryd oes am geisio llofruddio
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 66 oed wedi ei garcharu am oes wedi iddo bron â lladd ei gymdogion ym mis Awst.
Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, dywedodd y Barnwr Merfyn Hughes QC y byddai rhaid i Sean Tierney o Landudno dreulio o leia' 15 mlynedd dan glo.
"Rydych wedi dinistrio eu bywydau," meddai.
Roedd Nigel a Marjorie Gibbs yn byw yn Ffordd Dulyn, Llandudno, ac yn eu 60au.
Mewn gwrandawiad blaenorol, roedd Tierney wedi gwadu cyhuddiad o geisio llofruddio cyn newid ei ble.
Clywodd y llys fod y diffynnydd wedi ymosod ar y ddau ar Awst 20 ac "wedi eu trywanu nifer o weithiau".
'Ffrae'
"Roedd ffrae wedi bod a phenderfynodd y diffynnydd y byddai'n setlo'r mater a'u llofruddio nhw."
Clywodd y llys fod y diffynnydd wedi dweud wrth Mr Gibbs, oedd yn defnyddio llif drydan, y byddai'n dysgu gwers iddo.
Cafodd Mr Gibbs ei drywanu yn ei frest ac, wrth iddo ddianc i dŷ cymydog, ceisiodd Tierney ei drywanu eto.
Dywedodd yr erlynydd, Simon Mills, fod Tierney wedi trywanu Mrs Gibbs sawl gwaith pan oedd hi'n ceisio rhoi gwybod i'r heddlu.
Clywodd y llys dâp o'r alwad 999 a hi'n gweiddi am help.
Wedyn dywedodd hi wrth yr heddlu ei bod wedi codi ei braich er mwyn amddiffyn ei hun a "bron â cholli ei llaw".
Neidio
Llwyddodd Mrs Gibbs i ddianc wrth neidio o ffenestr ei hystafell wely.
Roedd gwaed yn arllwys oherwydd anafiadau i'w brest, arddwrn a stumog.
Dywedodd Sion ap Mihangel ar ran yr amddiffyn fod ei gleient yn teimlo bod ei gymdogion yn ei ddigio.
"Dyna sut yr oedd yn meddwl ar y pryd," meddai.
Doedd y diffynnydd ddim yn cofio beth ddigwyddodd, meddai, ond yn derbyn iddo golli ei dymer a meddwl ei fod wedi eu lladd.
Wrth siarad wedi'r ddedfryd, dywedodd Mr a Mrs Gibbs: "Rydym ill dau yn bobl positif ac rydym eisiau rhoi'r cyfan y tu cefn i ni.
"Ond mae'r ymosodiad wedi effeithio ar ein hyder. 'Da ni ddim eisiau gweld Sean Tierney yn achosi cymaint o boen i unrhyw un arall a fyddwn ni ddim yn gadael iddo ddifetha ein bywydau."