Milwr wedi marw ar fynydd ym Mannau Brycheiniog

Mae'r heddlu wedi dweud bod milwr wedi marw ar fynydd ym Mannau Brycheiniog.

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi cael gwybod am "y farwolaeth sydyn" am 9.42pm nos Sadwrn.

Bu farw ar Gorn Du, yr ail fynydd ucha' yn y de, ger Pen-y-fan, yr un ucha'.

Roedd ei ganolfan yn Henffordd a'r gred yw ei fod o Ddulyn.