Mwy o Loegr am astudio yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Myfyrwyr

Mae nifer y myfyrwyr o Loegr sydd am astudio yng Nghymru wedi cynyddu dros 10%, yn ôl UCAS.

Ond mae gostyngiad wedi bod yn nifer y myfyrwyr o Gymru sydd wedi gwneud cais i fynd i brifysgol yn 2013.

Mae ffigyrau'r corff sy'n prosesu ceisiadau, UCAS, yn dangos gostyngiad o 2.1% ymysg pobl 18 oed yng Nghymru o'i gymharu â'r flwyddyn gynt.

O dan bolisi Llywodraeth Cymru, dim ond £3,500 y mae'n rhaid i fyfyrwyr o Gymru dalu mewn ffioedd prifysgol, gyda Llywodraeth Cymru'n talu'r gweddill lle bynnag y bydd y myfyrwyr yn dewis astudio.

Ond mae rhai wedi mynegi pryderon y gallai'r polisi hynny gostio llawer gormod os na fydd mwy o fyfyrwyr o'r tu allan i Gymru yn dod yma i astudio.

Mae nifer y myfyrwyr o weddill y DU sydd am astudio ym Mhrifysgolion Cymru wedi cynyddu 7.3% gan gynnwys cynnydd o 10.1% o ran myfyrwyr o Loegr sydd am astudio yng Nghymru.

Y diwrnod cau er mwyn gwneud cais ar gyfer Hydref 2013 oedd Ionawr 15 ond mae modd gwneud cais hwyr tan Fehefin 30.

Mae nifer yr ymgeiswyr yn Lloegr wedi codi 1% tra bod nifer y rhai ymgeisiodd yng Ngogledd Iwerddon wedi codi 7.1% gyda 2% yn fwy o ymgeiswyr yn yr Alban.

Ar gyfartaledd cynyddodd y ceisiadau 3.5% ar draws y DU.

Dywedod Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Addysg Uwch Cymru: "Mae lefel y ceisiadau i Brifysgolion Cymreig yn awr yn uwch na lefel 2010.

"Hefyd mae'r cynnydd sylweddol o ran ceisiadau tramor yn profi bod enw da ein prifysgolion yn cynyddu tramor ac o fudd mawr i'r economi."

Dywedodd Nicola Dandridge, prif weithredwr Prifysgolion y DU, grŵp sy'n cynrychioli Is-Gangellorion prifysgolion: "Mae'n dda i weld, yn gyffredinol, bod nifer yr ymgeiswyr wedi cynyddu o'i gymharu â'r llynedd."