BBC Cymru Fyw

Tân yn lladd 150 o golomennod yn Nhreherbert

Published
image captionMae'r perchenog wedi bod yn rasio colomennod ers 23 mlynedd

Mae diffoddwyr yn credu bod tân wnaeth ladd dwsinau o golomennod rasio yn Y Rhondda wedi ei ddechrau'n fwriadol.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i'r tân yn y colomendy ym Mlaen-cwm, Treherbert toc wedi 5:00am ddydd Mercher.

Dywedodd perchennog y colomendy, Allan Smith, fod tua 150 o adar wedi bod y tu mewn i'r adeilad 10 meter wrth 6 metr.

Mae Mr Smith wedi bod yn rasio colomennod ers 23 mlynedd.

Dywedodd fod rhai ohonynt yn werth £1,000 yr un.

Ychwanegodd ei fod wedi adeiladu'r colomendy o bren haenog tua phum mlynedd yn ôl oherwydd ei fod yn meddwl na fyddai'r pren hynny'n llosgi'n hawdd.

Mae'r gwasanaeth tân wedi lansio ymchwiliad ynghylch beth achosodd y tân.