Damwain: Menyw wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae menyw 52 oed wedi marw ar ôl cael ei tharo gan gar ar ffordd yr A48.
Fe gafodd hi ei chludo i'r ysbyty ar ôl y digwyddiad ym Margam nos Fercher, ond bu farw o'i hanafiadau.
Roedd y fenyw yn cerdded ar Ffordd Margam tua 6:20p ddydd Mercher pan gafodd ei thar gan gerbyd Mitsubishi du.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru ar 01792 456999 neu 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol