BBC Cymru Fyw

Sunderland 0-0 Abertawe

Published

Sunderland 0-0 Abertawe

Fe fyddai rhywun wedi maddau i Abertawe am fod a'u meddyliau ar bethau eraill gydag ymweliad â Wembley i ddod ymhen mis, ond roedd tîm Michael Laudrup wedi gwneud digon i ennill yn y Stadium of Light nos Fawrth.

Llwyddodd yr Elyrch i atal y tîm cartref rhag cael ergyd at y gôl bron drwy'r gêm, a lwyddo hefyd i danio dros bymtheg o weithiau at gôl Sunderland.

Ond rhwng y pyst i'r tîm cartref roedd golwr rhyngwladol Gwlad Belg, Simon Mignolet, a ddangosodd pam y bydd rhaid i Gymru bryderu pan fydd y ddwy wlad yn cwrdd yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd yn ddiweddarach eleni.

Arbedodd Mignolet gynigion gan Ben Davies, Nathan Dyer a Dwight Tiendalli ymhlith eraill.

Mae'n dweud cyfrolau am berfformiad Abertawe y tymor hwn bod y tîm yn ymddangos yn siomedig gyda phwynt oddi cartref, ond mae'n bwynt sy'n eu codi i'r wythfed safle yn y tabl gyda 34 pwynt.

Roedd 37 pwynt yn ddigon i gadw QPR yn yr Uwchgynghrair ar ddiwedd y tymor diwethaf, ac mae Abertawe o fewn un fuddugoliaeth i'r nod yna a hithau ond yn fis Ionawr.

Straeon perthnasol

  • Abertawe yn cael buddugoliaeth yn erbyn Fulham