Wrecsam 2-2 Southport
- Published
Wrecsam 2-2 Southport
Roedd yna ddechrau digon cyffrous i'r gêm wrth i Wrecsam geisio esgyn i frig Uwchgynghrair Blue Square Bet, ac fe ddaeth dwy gôl yn y 12 munud cyntaf.
Wrecsam gafodd y gyntaf - Johnny Hunt ddaeth o hyd i Danny Wright ar ymyl y cwrt cosbi, ac fe aeth ei ergyd yn daclu i gornel y rhwyd wedi dim ond saith munud.
Ond lai na phum munud yn ddiweddarach roedd hi'n gyfartal unwaith eto.
Karl Ledsham gafodd y bêl ar ymyl y cwrt a thanio ergyd i gornel ucha'r rhwyd i unioni'r sgôr.
Digon cyfartal oedd yr ystadegau, gyda'r ddau dîm yn rhannu'r meddiant, ac yn cael tua'r un nifer o ergydion at y gôl ar y cyfan.
Roedd hi'n noson oedd yn gofyn am ddyfal barhad - fe wnaeth Wrecsam hynny ac fe gawson nhw'u gwobrwyo wedi 70 munud pan rwydodd Joe Clarke i'w rhoi ar y blaen unwaith eto.
Ond fe ddigwyddodd yr un peth am yr eidro yn y gêm, sef bod Southport wedi dod yn gyfartal eto.
Gyda naw munud yn weddill o'r gêm, Andy Owens sgoriodd i'r ymwelwyr i ddifetha gobeithion y Dreigiau o godi i'r brig.
Fe gafodd Wrecsam eu cyfleoedd wrth iddyn nhw gael cyfres o giciau rhydd yn yr amser ychwanegwyd ar ddiwedd y 90 am anafiadau, ond doedd dim yn tycio, a bu'n rhaid i dîm Andy Morrell fodloni ar bwynt sy'n eu cadw yn ail yn y tabl.
Fe gafodd gêm Casnewydd yn erbyn Braintree ei gohirio oherwydd cyflwr y cae ar Rodney Parade, felly mae gan Gasnewydd gêm wrth gefn ar y ddau sydd uwch eu pennau yn yr adran.
Straeon perthnasol
- Published
- 27 Hydref 2012
- Published
- 13 Hydref 2012
- Published
- 9 Hydref 2012