Cyhoeddi ffigyrau Prifysgolion
- Published
Fe fydd ffigyrau yn cael eu cyhoeddi'n ddiweddarach fore Mercher sy'n dangos faint o geisiadau fu am leoedd ym mhrifysgolion Cymru ar gyfer mis Medi eleni.
O dan bolisi Llywodraeth Cymru, dim ond £3,500 y mae'n rhaid i fyfyrwyr o Gymru dalu mewn ffioedd prifysgol, gyda Llywodraeth Cymru'n talu'r gweddill lle bynnag y bydd y myfyrwyr yn dewis astudio.
Ond mae rhai wedi mynegi pryderon y gallai'r polisi hynny gostio llawer gormod os na fydd mwy o fyfyrwyr o'r tu allan i Gymru yn dod yma i astudio.
Dywed Llywodraeth Cymru bod ei pholisi ar ffioedd yn glir iawn tan yr etholiad nesaf, ac yn dweud nad oes unrhyw beth yn y ffigyrau newydd sy'n awgrymu bod angen newid y polisi hwnnw.
Straeon perthnasol
- Published
- 3 Ionawr 2013