Gwrthdrawiad ger Pont Abraham: Gyrrwr wedi marw
- Published
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio i achos damwain farwol ar gyrion yr M4 yn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd un person ei ladd a 15 eu hanafu yn y ddamwain ger gwasanaethau Pont Abraham, cyffordd 49.
Tarodd bws yn erbyn car ar yr A483 am tua 4:20pm ddydd Mawrth.
Roedd y bws yn cludo myfyrwyr o gampws Rhydaman o Goleg Sir Gâr i Lanelli.
Cafodd pymtheg o bobl oedd ar y bws anafiadau, ac fe gawson nhw'u cludo i Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli ac Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru yng Nghaerfyrddin.
Roedd gyrrwr y car wedi marw yn y fan a'r lle, a dywedodd y gwasanaeth ambiwlans mai mân anafiadau oedd gan y 15 person ar y bws.
Dywedodd un person oedd yn teithio gerllaw bod nifer o ffenestri'r bws wedi malu yn y digwyddiad.
Yn ôl llefarydd ar ran Coleg Sir Gar cafodd 12 o fyfyrwyr eu cludo i'r ysbytai ar gyfer triniaeth.
"Nid ydym yn credu fod unrhyw fywydau mewn perygl a bod y rhan fwyaf o'r anafiadau yn rhai mân.
"Bydd y Coleg yn sicrhau bod gwasanaethau cymorth ar gael i fyfyrwyr ar gampws Rhydaman ddydd Mercher. "
Bu'r ffordd ar gau tra bod yr heddlu yn ymchwilio i achos y ddamwain.
Dywed yr heddlu iddi ail agor rhwng 3.30am a 4.00am fore Mercher.