Plant yn ddiogel wedi tân ar fws

  • Cyhoeddwyd
Y bws wedi ei losgi
Disgrifiad o’r llun,
Fe gymrodd hi dros 45 munud i ddiffoddwyr tân reoli'r tân ar y bws

Cafodd wyth o ddisgyblion ysgol ddihangfa lwcus wedi i'r bws yr oeddynt yn teithio arno fynd ar dân yng Ngwynedd fore dydd Mercher.

Roedd y plant ar eu ffordd o Flaenau Ffestiniog i Ysgol y Gader, Dolgellau, pan ddechreuodd y tân wrth i'r bws deithio ger Llanelltyd.

Cafodd y disgyblion eu symud oddi ar y bws yn ddiogel a'u cludo i ganolfan gwaith ffordd gerllaw.

Daeth i'r amlwg fod problem pan welwyd mwg yn dechrau dod o'r cerbyd.

Tri chwarter awr

Yn ôl llefarydd ar ran yr ysgol, fe gawson nhw wybod am y digwyddiad wedi i un o'r rheini ffonio ei dad i ddweud beth oedd wedi digwydd.

"Cafodd y plant eu cludo i fan diogel oddi wrth y bws," meddai. "Unwaith y cawson ni'r alwad gan dad y bachgen, fe wnaethon n i anfon bws mini'r ysgol i'w casglu. Chafodd neb ei anafu'n ffodus ac aeth y plant i gyd i'w gwersi wedyn."

Dywedodd fod yr ysgol wedi trefnu i'r disgyblion i gyd ffonio eu teuluoedd i adael iddynt wybod eu bod yn ddiogel.

Roedd y bws, oedd yn perthyn i gwmni Express Motors o Benygroes, wedi llosgi'n ulw.

Fe gymrodd hi dros dri chwarter awr i ddiffoddwyr tân reoli'r fflamau.

Doedd neb o'r cwmni ar gael i wneud sylw.