IVF: 'Fel gwlad dotalitaraidd'
Aled ap Dafydd
Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru
- Published
Mae gynaecolegydd amlwg wedi cymharu Cymru i wlad dotalitaraidd ar ôl i Lywodraeth Cymru benderfynu peidio â pharhau i ariannu triniaeth IVF mewn clinig preifat.
Bydd cyfleuster IVF newydd y GIG yng Nghastell-nedd Port Talbot ysbyty yn agor ym mis Ebrill, 18 mis yn hwyrach na'r disgwyl a dwy flynedd wedi i gytundeb London Women's Clinic (LWC) yn Abertawe ddod i ben.
Mae dros £500,000 wedi ei wario ar drin cleifion ar y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw'n glir yn eu cefnogaeth i sicrhau mwy o wasanaethau IVF ar y GIG.
Yn dilyn cytundeb Llywodraeth Cymru'n Un, sef y glymblaid flaenorol rhwng Llafur a Phlaid Cymru, i roi terfyn ar y defnydd o ddarparwyr preifat yn y GIG, penderfynodd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) i beidio adnewyddu'r cytundeb gyda LWC.
'Gwallgof'
Yn ôl Peter Simpkins Bowen, cyfarwyddwr meddygol y clinic, fe wnaed y penderfyniad am resymau ideolegol yn unig.
"Rwy'n credu ei fod yn wallgof. Mae'n teimlo i mi fel gwladwriaeth dotalitaraidd sy'n dweud dyma beth yr ydym yn mynd i'w wneud er gwaethaf y canlyniad.
"Yr union bobol sydd, mae'n debyg, wedi cefnogi'r Llywodraeth sy'n mynd i fod dan anfantais, y rhai sydd yn methu fforddio talu (am driniaeth breifat) ac sydd yn mynd i orfod teithio yn bell iawn."
Mae ffigurau hyd at Dachwedd 2012 yn dangos bod 210 o fenywod o Dde a Gorllewin Cymru wedi cael eu trin gan Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Bryste ac mae 90 arall yn aros am driniaeth.
Mae wedi costio Llywodraeth Cymru dros £500,000.
'Rhatach'
Yn ôl LWC, roedden nhw yn cynnig y gwasanaeth yn rhatach na IVF Cymru, sef y ddarpariaeth GIG yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.
Yn ôl Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru doedd y penderfyniad ddim yn seiliedig ar arian ac maen nhw'n cydweithio gyda Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg i sicrhau y bydd y cyfleusterau newydd yng Nghastell-nedd Port Talbot yn agor yn y gwanwyn.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Tra ein bod ni'n deall cymhelliad London Women's Clinic, fel cwmni preifat sydd ag awydd i wneud elw, mae Llywodraeth Cymru yn glir yn eu cefnogaeth i'r gwaith sydd yn cael ei wneud i sicrhau mwy o wasanaethau IVF o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru".
Mae Llywodraeth Cymru ar ddeall y bydd yr uned newydd yn ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn barod i drin cleifion o fis Ebrill ymlaen, cyn belled â bod Awdurdod Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg wedi rhoi sêl bendith.
Straeon perthnasol
- Published
- 4 Medi 2012
- Published
- 30 Ionawr 2012
- Published
- 3 Ionawr 2012
- Published
- 27 Mai 2010
- Published
- 21 Ebrill 2011
- Published
- 25 Ebrill 2010
- Published
- 16 Mehefin 2009
- Published
- 12 Awst 2008