Diddymu'r gystadleuaeth am drenau
- Cyhoeddwyd
Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bod yn diddymu'r gystadleuaeth am yr hawl i redeg y gwasanaeth trenau'r Great Western rhwng de Cymru a Llundain.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth y bydd nawr yn ystyried trafod cytundeb dros dro am gyfnod o ddwy flynedd o leiaf gyda'r cwmni sy'n rhedeg y gwasanaeth ar hyn o bryd, First Group.
Dywedodd Patrick McLoughlin ei fod wedi cyhoeddi'r newid ar sail cyngor gan Richard Brown, sef y dyn fu'n ymchwilio i fethiant y broses dendro am lein arfordir y gorllewin.
Mewn datganiad i'r senedd yn San Steffan, dywedodd Mr McLoughlin y byddai'n cynnal "adolygiad sylfaenol o'r cynllun hawl, gan gydnabod bod hwn yn gytundeb mawr a chymhleth a fydd angen rheoli gwasanaethau wrth i'r lein gael ei drydaneiddio a stoc drenau newydd gael eu cyflwyno".
Ym mis Mawrth y llynedd, cyhoeddwyr mai First Group, National Express, Stagecoach ac Arriva oedd ar y rhestr fer i redeg cytundeb hawl Great Western.
Ychwanegodd Mr McLoughlin nad oedd yn credu y byddai'n briodol i'r llywodraeth ad-dalu arian i'r cwmnïau am eu costau wrth baratoi cynigion.
Dywedodd hefyd: "Byddaf hefyd yn gorchymyn Directly Operated Railways - cwmni sy'n eiddo i'r llywodraeth - i gymryd camau angenrheidiol i weithredu gwasanaethau trên os bydd amgylchiadau'n codi lle nad wyf yn medru cytuno amodau dros dro gyda'r cwmni sy'n rhedeg y gwasanaeth ar hyn o bryd."
Ymateb
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd cwmni First Great Western mewn datganiad:
"Bydd First Great Western yn parhau gyda'r cytundeb y tu hwnt i'r terfyn presennol o Fawrth 31, 2013.
"O dan amodau'r cytundeb presennol, bydd cyfnod pellach o 28 wythnos yn cael ei weithredu. Yn ogystal rydym mewn trafodaethau gyda'r Adran Drafnidiaeth i barhau'r cytundeb am ddwy flynedd arall y tu hwnt i Hydref 2013.
"Bydd hyn yn sicrhau parhad y gwasanaeth ac yn galluogi First Great Western i barhau i gyflawni gwelliannau i deithwyr dros y cyfnod estynedig yma.
"Bydd yr estyniad yn hwyluso cyflawni cynlluniau mawr ar y rhwydwaith, yn enwedig trydaneiddio a chyflwyno'r stoc drenau newydd a fydd angen ynghyd â gwaith sylweddol i uwchraddio'r lein, gorsafoedd a signalau."
Straeon perthnasol
- 15 Hydref 2012
- 3 Hydref 2012
- 27 Awst 2012
- 15 Awst 2012