Ceisio llofruddio: Dyn yn y ddalfa
- Published
Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio menyw yn ei chartref wedi ei gadw yn y ddalfa wedi gwrandawiad llys ddydd Iau.
Cafodd John Richard Mitchell, 34 oed o Goedpoeth ger Wrecsam, ei gyhuddo o geisio llofruddio Kelly Tobin yn ei chartref yng Nghoedpoeth.
Hefyd mae wedi ei gyhuddo o fygwth lladd ac ymosod ar blismon gafodd ei anfon i'r tŷ ac o feddu ar lafn raser.
Roedd gerbron Llys Ynadon y Fflint a bydd gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug yr wythnos nesa'.