Harris yng ngharfan criced T20 Lloegr
- Cyhoeddwyd
Mae'r Cymro James Harris wedi ymuno â charfan undydd Lloegr ar gyfer y gyfres 20 pelawd yn erbyn Seland Newydd.
Mae'r bowliwr cyflym 22 oed o Dreforys yn ymuno â'r garfan yn dilyn anaf i Stuart Meaker.
Yr wythnos diwethaf cafodd Harris ei ddewis yng ngharfan undydd Lloegr ar gyfer y gyfres 50 pelawd yn erbyn Seland Newydd.
Roedd Harris yn wreiddiol wedi cael ei ddewis i deithio gyda Llewod Lloegr (yr ail garfan) ar daith i Awstralia.
Cafodd y bowliwr cyflym 22 oed o Dreforys ei gynnwys yng ngharfan 20/20 Lloegr ar gyfer y gyfres yn erbyn India ym mis Rhagfyr y llynedd ond ni chafodd ei ddewis yn yr 11 terfynol.
Gallai Harris gael ei gap llawn cyntaf yn y gyfres 20/20 yn erbyn Seland Newydd rhwng Chwefror 9-15.
Bydd y gyfres undydd yn cael ei chynnal rhwng Chwefror 17-23.
Harris yw'r chwaraewr ieuengaf erioed i chwarae i dîm cyntaf Morgannwg pan oedd yn 16 oed, a bu'n chwarae i'r sir tan yr haf diwethaf pan adawodd i ymuno â Middlesex.
Straeon perthnasol
- 24 Ionawr 2013
- 13 Rhagfyr 2012