Coleg Iwerydd yn llongyfarch tywysog o'r Iseldiroedd
- Cyhoeddwyd
Mae coleg yng Nghymru yn dathlu ar ôl clywed y bydd cyn-ddisgybl yn cael ei goroni'n frenin yr Iseldiroedd.
Roedd y tywysog Willem-Alexander yn mynychu coleg chweched dosbarth rhyngwladol Coleg Iwerydd ger Llanilltud Fawr ym Mro Morgannwg o 1983 tan 1985.
Ddydd Llun cyhoeddodd y Frenhines Beatrix, 75, y byddai'n rhoi'r gorau i'w theitl ar Ebrill 30.
Bydd y tywysog, 45, yn cael ei goroni'n frenin yr Iseldiroedd mewn seremoni yr un diwrnod.
Dywedodd llefarydd ar ran y coleg bod y tywysog wedi bwriadu ymweld â'r coleg ychydig wythnosau cyn yr arwisgiad ond efallai byddai'r ymweliad nawr yn cael ei aildrefnu.
Fe ddaeth y Tywysog Willem-Alexander i'r coleg pan yn 16 oed.
Ar y pryd roedd yn rhannu ystafell gyda Adrian Disney, cyn-ddisgybl sydd nawr yn dysgu bywydeg yn yr ysgol.
"Roedd yn sicr wedi mwynhau ei amser yma," meddai Mr Disney.
"Mae'n debyg mai dyma'r tro cyntaf iddo allu mynd allan a mwynhau ei hun heb i bobl ei adnabod.
"Roedd yn rhan o'r gwasanaeth bad achub ac arferai gymryd grŵp o bobl ddall a'i dysgu nhw sut i nofio a chanŵio," ychwanegodd."
Dywedodd John Walmsley, pennaeth y coleg:
"Bu'n astudio gyda myfyrwyr o fwy 'na 90 o genhedloedd gwahanol ac o amrywiaeth eang o gefndiroedd ac rydym yn hyderus y bydd ei brofiad yma yn sylfaen da ar gyfer ei her newydd fel brenin."