Anfon rheithgor achos Siddiqi adre'
- Published
Mae rheithgor achos dau ddyn ar gyhuddiad o lofruddio llanc 17 oed yng Nghaerdydd dair blynedd yn ôl wedi eu hanfon adre'.
Eisoes mae Ben Hope, 39 oed, a Jason Richards, 38 oed, ill dau o Gaerdydd, wedi gwadu trywanu Aamir Siddiqi ar garreg drws ei gartre yn ardal y Rhath, Caerdydd.
Maen nhw hefyd wedi gwadu cyhuddiad o geisio llofruddio'i rieni.
Roedd yr erlyniad wedi cyhuddo'r ddau o "anallu syfrdanol" am eu bod wedi lladd y person anghywir.
Clywodd Llys y Goron Abertawe mai'r dyn oedd i fod gael ei ladd oedd tad pedwar o blant oedd yn byw yn agos i Aamir Siddiqi a'i deulu.
Straeon perthnasol
- Published
- 30 Ionawr 2013
- Published
- 30 Ionawr 2013
- Published
- 8 Ionawr 2013
- Published
- 7 Ionawr 2013
- Published
- 20 Rhagfyr 2012
- Published
- 14 Rhagfyr 2012
- Published
- 13 Rhagfyr 2012
- Published
- 12 Rhagfyr 2012
- Published
- 5 Tachwedd 2012
- Published
- 27 Medi 2012