Gwahardd rhag gyrru am flwyddyn wedi damwain yn Nelson
- Cyhoeddwyd

Mae dyn ifanc wedi ei wahardd rhag gyrru am flwyddyn wedi iddo ddymchwel tŷ wrth yrru jîp ei dad ar ôl parti.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod Robbie Morgan, 18 oed o Dreharris ger Merthyr Tudful, wedi gwyro oddi ar y ffordd, gan daro tŷ teras yn Nelson ger Caerffili yn Rhagfyr 2011.
Dim ond ers chwe mis yr oedd wedi bod yn gyrru a tharodd fenyw 18 oed gafodd anafiadau difrifol.
Roedd yn ddieuog o yrru'n beryglus ond yn euog o yrru heb y gofal a'r sylw dyladwy.
Cafodd dirwy o £600.
Dywedodd y myfyriwr, oedd yn gwadu cyhuddiad o yrru'n beryglus, fod gyrrwr arall wedi tynnu allan o'i flaen.
'Amrantiad'
Dywedodd wrth y llys: "Digwyddodd y ddamwain am ei bod hi wedi tynnu allan o 'mlaen i - roeddwn i'n methu osgoi'r peth.
"Doeddwn i ddim yn disgwyl i hynny ddigwydd. Roedd hi'n noson ddistaw iawn heb lawer o geir ar y ffordd.
"Digwyddodd y cyfan ar amrantiad. Daeth allan o le parcio a rhwystro'r ffordd o 'mlaen i. Fe wnes i fy ngorau i droi i ffwrdd a brecio.
"Doedd gen i ddim dewis - petawn i heb droi i ffwrdd fe fyddwn i wedi taro'n syth yn erbyn y car."
Clywodd y llys bod y diffynnydd wedi bod mewn parti chweched dosbarth ac wedi gadael gyda ffrindiau i brynu bwyd a sigarets o garej cyfagos.
Gwylio'r teledu
Dywedodd yr erlyniad fod y car arall - Renault Megane - eisoes yng nghanol y ffordd yn disgwyl cael troi i'r dde a bod Morgan wedi ei weld yn rhy hwyr am ei fod yn gyrru'n gyflymach na'r uchafswm o 30 m.y.a.
Dywedodd Kelly Anne Thomas, oedd yn teithio yn yr ail gar: "Fe ddaeth y jîp o nunlle ac wrth i ni ei weld fe darodd yn ein herbyn."
Clywodd y llys fod y cerbyd wedi gadael y ffordd a tharo yn erbyn Geraldine Downy a gafodd ei thaflu 15 troedfedd i'r awyr.
Yna fe darodd y cerbyd erbyn cartref Lucie Flowers. Ni chafodd hi ei tharo am ei bod yn gwylio'r teledu yn y llofft ar y pryd.